4. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Aer Glân

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 18 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 4:20, 18 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cyhoeddi canllawiau ansawdd aer sy'n seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf am effaith llygryddion aer ar iechyd pobl. Gyda rhai llygryddion aer, mae unrhyw lefel yn beryglus, ac, o dan yr amgylchiadau hyn, mae'r canllawiau yn awgrymu lefelau sy'n cynrychioli'r isaf gellir ei gyflawni. Bwriedir i'r canllawiau hyn fod yn fan cychwyn i lywodraethau cenedlaethol ddatblygu mesurau sy'n adlewyrchu'r ffactorau lleol y gwyddys eu bod yn dylanwadu ar effeithiau llygredd aer. Rydym ni'n ystyried y lefelau yng nghanllaw Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer deunydd gronynnol. Bydd hyn yn ein galluogi ni i ddeall yr agweddau ymarferol ar gyflwyno gwelliannau i ansawdd aer a llywio ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Mae'r cyfyngiadau cyfreithiol presennol ar lygredd aer yn deillio o gyfraith yr Undeb Ewropeaidd, ac yn pennu safon dderbyniol ofynnol. Mae'r angen am reolau ar lefel yr UE yn adlewyrchu'r ffaith nad yw llygredd aer yn parchu ffiniau cenedlaethol ac yn gofyn am ymateb ar y cyd ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol. Beth bynnag fydd canlyniad y broses Brexit, rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau bod ein dulliau ni o ddiogelu'r amgylchedd yn gyson â'r rhai ar lefel yr UE, ac nid ydym ni am ostwng y safonau o gwbl.

Mae cyflawni yn erbyn y safonau hyn yn gofyn am weithredu ar y cyd ar draws y Llywodraeth a chymdeithas. Felly, mae'r cyfrifoldeb am fynd i'r afael â llygredd aer yn cael ei rannu ar draws y Cabinet i gyd. Rwyf i wedi bod yn gweithio gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar gamau i fynd i'r afael â'r gormodedd o nitrogen deuocsid mewn pum safle ar draws ein rhwydwaith strategol o draffyrdd a chefnffyrdd. Mae'n bleser gennyf i gyhoeddi y bydd terfynau cyflymder 50 milltir yr awr yn cael eu rhoi ar waith yn barhaol ym mhob un o'r pum safle erbyn canol mis Gorffennaf. Fe fyddwn ni'n ehangu'r cyfathrebu ynglŷn â'r rheswm dros y cyfyngiadau cyflymder ac yn gosod arwyddion traffig parhaol newydd ym mhob safle, fel y bydd y cyhoedd yn ymwybodol o bwysigrwydd y mesurau hyn.

Ar ddiwedd y mis hwn, rwyf i fod i gael adroddiadau astudiaeth o ddichonoldeb gan gynghorau Caerdydd a Chaerffili, yn amlinellu'r camau y byddan nhw'n eu cymryd i fodloni'r terfynau cyfreithiol ar gyfer nitrogen deuocsid yn yr amserlen fyrraf bosibl. Bydd y cynlluniau yn cael eu hasesu yn annibynnol gan banel o arbenigwyr y mis nesaf, ac rwy'n bwriadu gwneud penderfyniad terfynol ar weithredu mesurau cyn gynted ag sy'n bosibl wedi hynny, yn seiliedig ar y dystiolaeth a'r cyngor.

Mae sicrhau aer glân yn golygu ei bod yn rhaid i ni, fel cymdeithas, leihau ein dibyniaeth ar geir preifat ac annog pobl i gerdded, seiclo a defnyddio cludiant cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn helaeth mewn creu llwybrau teithio llesol ledled Cymru, ac mae dros £30 miliwn o fuddsoddiad ar y gweill a mwy yn yr arfaeth ar gyfer y flwyddyn nesaf. Bydd ein huchelgais ni i bob bws a phob tacsi fod yn isel eu hallyriadau carbon neu'n gwbl rydd o hynny erbyn 2028 yn sicrhau bod y defnydd cynyddol o gludiant cyhoeddus yn gallu cyfrannu at wella ansawdd yr aer, yn ogystal â'n symud ni tuag at economi carbon isel.

Mae angen newid y system gynllunio i fynd i'r afael ag ansawdd aer i atal problemau ansawdd aer cyn iddyn nhw godi. Yn dilyn newidiadau ar gyfer cryfhau'r gofynion i fynd i'r afael ag ystyriaethau ansawdd aer yn y 'Polisi Cynllunio Cymru' diwygiedig, a gyhoeddwyd y llynedd, rwy'n falch fod swyddogion cynllunio a'm rhai innau yn datblygu nodyn cyngor technegol newydd ar gyfer cynllunwyr a datblygwyr ar ansawdd aer a seinlun, yn dilyn galwad â phwyslais am dystiolaeth yn ddiweddarach eleni.

Mae bod â'r dystiolaeth orau sydd ar gael yn hanfodol er mwyn i ni fanteisio i'r eithaf ar effaith gadarnhaol y mesurau yr ydym ni'n eu cymryd i fynd i'r afael â llygredd aer. Ym mis Ebrill eleni, fe wnês i gomisiynu asesiad eang o fesurau i leihau allyriadau aml-lygredd a thraws-sector. Bydd yr ymchwil hwn yn darparu'r asesiad mwyaf manwl erioed o ansawdd aer ledled Cymru. Bydd yn ystyried yr ystod lawn o ymyraethau posibl ac yn eu hasesu ar sail gwerth am arian. Yn hollbwysig, bydd yn asesu effaith bosibl y mesurau hynny ar saith nod lles ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Caiff y dystiolaeth hon ei defnyddio i lywio ein cynllun aer glân i Gymru. Yn ei dro, bydd y cynllun yn nodi'r meysydd hynny sy'n gofyn am fynd i'r afael â'r newidiadau i'r ddeddfwriaeth drwy ein Deddf Aer Glân.

O'n hanadl gyntaf hyd ein hanadl olaf, mae angen aer glân arnom ni i fyw bywydau iachach a hapusach. Mae'r camau yr wyf wedi eu disgrifio yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu seilwaith, tystiolaeth a rheoliadau newydd i helpu i gyflawni'r nod hwn. Ceir camau hefyd y gall pob un ohonom ni eu cymryd heddiw i osgoi peryglon llygredd aer. Fe allwn ni i gyd leihau ein cyfraniadau personol ni tuag at lygredd yn yr aer a'r amser y byddwn ni'n agored iddo. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi ffurfio partneriaeth gyda Global Action Plan am y tro cyntaf i ddathlu Diwrnod Aer Glân ar yr 20 o fis Mehefin. Mae'n hanfodol ein bod ni'n hysbysu pawb am achosion llygredd aer a'r swyddogaeth sydd gan bob un ohonom ni wrth fynd i'r afael ag ef. Felly, rwy'n annog Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol i gyd a phawb sy'n gwrando ar y ddadl hon i gefnogi'r ymgyrch Diwrnod Aer Glân ac ystyried yr hyn y gallwch chi ei wneud i sicrhau bod Cymru'n anadlu aer glân.