Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 18 Mehefin 2019.
Mae hi, wrth gwrs, yn wythnos aer glân ac mae'n rhaid i fi ddweud, Weinidog, roeddwn i wedi disgwyl rhyw ddatganiad neu ryw gyhoeddiad arwyddocaol yn eich datganiad chi y prynhawn yma, ond y cyfan rŷm ni wedi ei gael yw ategu, yn amlwg, eich bod chi'n ymrwymedig i Ddeddf aer glân i Gymru, ond dim manylion pellach ynglŷn â chynnwys posib i'r Ddeddf, a bach iawn o fanylion ynglŷn ag amserlen gosod Deddf o'r fath. Pa gynnydd ydych chi fel Llywodraeth wedi ei wneud yn y gwaith i ddatblygu'r Ddeddf yma?
Rŷch chi'n dweud yn y datganiad eich bod chi'n ymrwymiedig i gynllun aer glân i Gymru—rwy'n gwybod hynny'n barod—ond dim cynnydd. Hynny yw, rŷch chi newydd gyfeirio at ryw ddyddiad anelwig yn yr hydref ar gyfer ymgynghoriad, heb sôn am gyflwyno cynllun. Rŷch chi'n dweud yn eich datganiad eich bod chi'n ymrwymiedig i gymryd pob mesur ymarferol i wella ansawdd aer. Wel, ble mae'r camau ychwanegol, yn hytrach na ryw gyfeiriad at beth rŷch chi eisoes wedi ei gyhoeddi? Y cyfan sydd yn y datganiad yma yw re-hash o gyhoeddiadau blaenorol, ac mae'n rhaid i fi ddweud, mae hynny'n hynod, hynod siomedig.
Nawr, mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi codi'r mater yma'n gyson dros y blynyddoedd diwethaf. Dwi'n cofio dadleuon yn y Siambr yma flwyddyn a mwy yn ôl yn galw am weithredu brys. Mae Dr Dai Lloyd yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar Ddeddf aer glân yn y Cynulliad yma. Felly, pryd welwn ni gynllun aer glân yn gweld golau dydd? Nid yr ymgynghoriad—pryd ydych chi'n bwriadu gosod y cynllun ar waith? Pryd mae'r Llywodraeth yma yn bwriadu gosod Bil aer glân o flaen y Cynulliad yma? Roeddwn i'n gobeithio mai dydd Iau yma fyddai'r Dydd Aer Glân olaf inni yng Nghymru heb fod yna ddeddfwriaeth wedi ei mabwysiadu yn ei lle. A byddai hynny, wedyn, wrth gwrs, yn ein helpu ni i daclo melltith llygredd aer unwaith ac am byth. Felly, pryd ddaw e? Oherwydd os bydd yn rhaid inni aros blwyddyn arall, yna yr hyn mae hynny'n ei olygu, wrth gwrs, yw y bydd Llywodraeth Cymru yn goddef 2,000 o farwolaethau ychwanegol yn sgil llygredd aer oherwydd yr oedi hynny, ac mae hynny'n sgandal. Mae'n sgandal cenedlaethol ac mae'n warthus.
Mae'r Llywodraeth, eich Llywodraeth chi, a'r Cynulliad yma wedi datgan argyfwng hinsawdd—argyfwng hinsawdd. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgan bod llygredd aer yn grisis iechyd cyhoeddus—yn grisis iechyd cyhoeddus. Nawr, nid diweddariad roeddwn i'n gobeithio ei gael yn y datganiad yma. Nid busnes fel arfer. Mae'n amser nawr i newid gêr ac i roi troed i lawr, ond beth rŷm ni'n ei gael yw Llywodraeth mewn awtopeilot, a dyw hynny ddim yn dderbyniol.