Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 18 Mehefin 2019.
Diolch, Comisiynydd. Gweinidog, diolch am eich datganiad chi heddiw. Dyma un o'r meysydd lle'r ydym ni mewn angen taer o weld cynnydd sylweddol, gyda 2,000 o farwolaethau cynamserol y flwyddyn ddim ond yng Nghymru yn unig. Mae hynny'n bump o unigolion y dydd sy'n marw'n gynamserol oherwydd yr ansawdd aer gwael sydd gennym ni yma yng Nghymru. Er enghraifft, mae gan Gaerdydd a Phort Talbot lefel uwch o ronynnau yn yr aer y mae pobl yn ei anadlu yn y ddwy ardal hynny nac yn Birmingham neu Fanceinion, ac, fel un sydd wedi bod yn ardal Birmingham a Manceinion dros y penwythnos, pan feddyliwch chi am faint y ddwy ardal hynny a lefel y llygredd a fyddai'n bosibl yn yr ardaloedd hynny, mae hynny'n ei gwneud hi mor amlwg pa mor bell ar ei hôl hi yr ydym ni yma yng Nghymru. Rwy'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru gynyddu a gwella'r camau y mae'n eu cymryd yn y maes penodol hwn. Yn arbennig, ym mis Ionawr eleni, wrth gwrs, cyfaddefwyd nad oedden nhw'n bodloni eu gofynion cyfreithiol—neu nad oedd Llywodraeth Cymru yn bodloni ei gofynion cyfreithiol—felly, a wnewch chi gadarnhau, Gweinidog, y byddai hynny'n golygu, ar ôl y datganiad heddiw a'r camau gweithredu yr ydych chi wedi eu hamlinellu yn y datganiad, bod Llywodraeth Cymru bellach yn bodloni ei gofynion cyfreithiol o ran ansawdd aer, neu, os nad ydych chi'n bodloni'r gofynion cyfreithiol hynny, pryd fyddwch chi'n debygol o gyrraedd y lefelau sylfaenol a osodir o dan y gyfraith i chi fel Llywodraeth?
Roeddech chi'n sôn yn y datganiad am derfynau cyflymder o 50 milltir yr awr y byddwch chi'n eu sefydlu ar y rhwydwaith gefnffordd a thraffordd yng Nghymru; mae'n rhaid i mi ddweud, y byddai hynny'n gwireddu breuddwyd i lawer sy'n sefyll yn stond ar yr M4 bob dydd, ac mae'r llygredd sy'n deillio o draffig sy'n sefyll ar dair lôn—wel, chwe lôn, i bob pwrpas, oherwydd yn aml iawn bydd hyn i'r ddau gyfeiriad—yn broblem enfawr i bobl sy'n byw yng Nghasnewydd ac yn ardal y de-ddwyrain. Felly, rwy'n dymuno'n dda i chi o ran eich ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus, ond, os ydych chi'n sôn am 50 milltir yr awr, byddai'r rhan fwyaf o bobl yn dweud na fyddech chi'n beiddio mynd yn agos at 50 milltir yr awr y rhan fwyaf o adegau'r dydd ar y draffordd arbennig honno.
Ond rwyf yn credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n deall pam nad ydych chi'n dod i'r Siambr heddiw ac efallai'n croesawu rhai o'r camau y mae Llywodraeth y DU wedi eu cymryd ynghylch ansawdd aer. [Torri ar draws.] Wel, dyna'r gwirionedd. Mae Sefydliad Iechyd y Byd ei hun wedi dweud bod y datganiad a'r strategaeth y mae Llywodraeth y DU—ac rwy'n clywed rhywrai, ar eu heistedd, yn chwerthin, ond dywedodd Sefydliad Iechyd y Byd fod y strategaeth y mae Llywodraeth y DU wedi ei rhoi ar waith yn esiampl i weddill y byd ei dilyn. Felly, nid gwleidyddion sy'n dweud hynny, ond Sefydliad Iechyd y Byd. Ond rwy'n siŵr bod y cenedlaetholwyr yn gwybod yn well na Sefydliad Iechyd y Byd.
Felly, a gaf i ofyn—[Torri ar draws.] A gaf i ofyn pam nad yw'r Gweinidog wedi gweld yn dda efallai i fabwysiadu strategaeth o'r math hwn yng Nghymru, o gofio na fyddwn i'n awgrymu bod gwahaniaethau enfawr rhwng ein heconomi ni a'r hyn sy'n digwydd dros y ffin a Chlawdd Offa? Ac, os yw'r strategaeth honno'n ddigon cadarn gan Sefydliad Iechyd y Byd, pam nad ydym ni wedi mabwysiadu honno yma yng Nghymru?
Hefyd, rwy'n sylwi yn y datganiad fod y Gweinidog yn dweud bod ein polisïau a'n cyfreithiau yn seiliedig ar safonau'r UE. Mae'n ffaith bod safonau Sefydliad Iechyd y Byd, yn amlwg, yn uwch na'r safonau Ewropeaidd hynny ac mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i fodloni'r safonau hynny. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau y byddai'n sicr yn uchelgais gan Lywodraeth Cymru i ddarparu hyd at safonau Sefydliad Iechyd y Byd yn hytrach na safonau'r UE? Oherwydd fe fyddai hynny'n gweld newid sylweddol eto yn yr hyn y gallem ni ei gyflawni yma yng Nghymru. Rydych chi wedi sôn am Ddeddf aer glanach, Gweinidog; byddwn yn ddiolchgar o gael gwybod—gan sôn am 2021, bod y Ddeddf honno'n dod ymlaen gan Lywodraeth Cymru, rwy'n amau fy mod i'n cofio bod honno'n flwyddyn etholiad i ni yma yn y Cynulliad, felly a yw hynny'n fwy o ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru y byddai hyn yn eu maniffesto, neu a gaiff hyn ei gyflwyno a'i weithredu mewn gwirionedd erbyn 2021? Beth yw'r amserlen y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio arni i gyflwyno Deddf o'r fath? Oherwydd rwy'n siŵr—. Credaf fod yna gefnogaeth drawsbleidiol i Ddeddf o'r fath, a byddai honno'n broses ddeddfwriaethol gymharol syml—efallai ei bod hi'n anghywir i ddweud bod unrhyw broses ddeddfwriaethol yn syml, ond mae cefnogaeth eang i weld deddfwriaeth yn y maes arbennig hwn.
Fe hoffwn i hefyd ddeall pam mae Caerdydd a Chaerffili—ac rwy'n gallu deall pam, oherwydd bod ganddyn nhw lefelau uchel iawn o lygredd—yn cyflwyno cynlluniau i chi ac rydych chi'n aros am y cynlluniau hynny, ond pam nad yw ardaloedd eraill yng Nghymru—ac rwyf i wedi tynnu sylw at Bort Talbot, er enghraifft—â'r un ymrwymiad i gyflwyno cynlluniau gweithredu o ran y ffordd y byddan nhw'n mynd ati i wella ansawdd yr aer y mae preswylwyr a busnesau yn yr ardaloedd hynny'n ei ddioddef ar hyn o bryd.
Fe hoffwn i dynnu eich sylw chi hefyd at y cynigion a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr, o dan fy rhagflaenydd o ran y cyfrifoldeb portffolio hwn, sef David Melding, yn y ddogfen 'Liveable Cities', a oedd yn sôn am ddefnyddio'r system gynllunio ac yn sôn am greu parthau awyr glân. Ceir trywydd parod i gael cynnydd yn gyflym yn y maes arbennig hwn, ac mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf i wedi fy argyhoeddi, o ddarllen y datganiad hwn, ein bod ni'n mynd i gyflawni hynny. Felly, rwy'n edrych ymlaen at glywed eich atebion.