Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 19 Mehefin 2019.
Diolch, Weinidog. Yn amlwg, mae'r holl gyngor arbenigol a dderbyniwyd yn dynodi dirywiad llawer o'n bioamrywiaeth, felly credaf ei bod yn hanfodol parhau i gryfhau'r cysylltiadau rhwng pobl, y cymunedau lleol a'u hamgylchedd ehangach, ac mae llawer i'w gymeradwyo yn y cymunedau lleol hynny. Ym Merthyr Tudful a Rhymni, er enghraifft, rydym wedi gweld y gymdeithas bysgota leol yn rheoli dyfrffyrdd a glannau afonydd, grŵp rhandiroedd Royal Crescent yn datblygu parthau pryfed ar gyfer plant ysgol, ac mae'r plant bellach wedi dod yn wenynwyr bach hefyd, a grwpiau fel Coed Actif Cymru yn darparu cyfleoedd lles yn yr amgylchedd lleol, sy'n gyfle gwych ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol, a cheir llawer o fentrau tebyg eraill. Ond mae rhai o'r grwpiau hynny’n dweud wrthyf am y problemau mawr y maent yn eu hwynebu gyda chwyn ymledol, fel clymog Japan a jac y neidiwr, sy'n peryglu llawer o'r gwaith a wnânt. Felly, beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i fynd i'r afael â phroblem rhywogaethau goresgynnol er mwyn gwella bioamrywiaeth?