Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 19 Mehefin 2019.
Weinidog, mae ffermwyr Cymru’n chwarae rhan hanfodol yn diogelu a gwella cefn gwlad. Mae llawer o'r cynefinoedd a'r rhywogaethau gwerthfawr a geir ar dir ffermio Cymru’n dibynnu ar reolaeth weithredol gan ffermwyr. Mae RSPB Cymru yn honni nad yw'r lefelau cymorth presennol yn diogelu'r amgylchedd ac maent yn methu cadw busnesau fferm yn hyfyw na ffermwyr ar y tir. Rwy'n siŵr, Weinidog, eich bod yn cydnabod bod cynhyrchu bwyd a manteision amgylcheddol cadarnhaol i lawer o rywogaethau wedi'u cysylltu'n sylfaenol. Weinidog, rwy'n eithaf sicr fod yr hyn a wnewch i sicrhau rheolaeth weithredol gan ffermwyr yn cael ei wobrwyo'n deg yng Nghymru.