Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 19 Mehefin 2019.
Ni allaf anghytuno ag unrhyw beth a ddywedwch, ac fe fyddwch yn ymwybodol o'r cyhoeddiad a'r datganiad a gyflwynais i’r Siambr yr wythnos diwethaf ynghylch 'Brexit a’n tir' 2, fel y’i gelwir ar hyn o bryd, a fydd yn ail ran yr ymgynghoriad ar y polisi amaethyddol ar ôl Brexit. Rwyf bob amser wedi bod o’r farn fod cynhyrchu bwyd yn bwysig tu hwnt. Rwy'n credu mai ni oedd yr unig ran o'r DU a oedd yn cynnwys bwyd yn yr ymgynghoriad. Yn sicr nid wyf yn credu bod ‘Iechyd a Harmoni’ wedi gwneud hynny, oherwydd rwy'n cydnabod pwysigrwydd cynhyrchu bwyd a'n sector amaethyddol yn llwyr.
Hefyd, mae canlyniadau amgylcheddol yn bwysig iawn, a gwnaethom yn glir iawn y bydd ein system taliadau amaethyddol yn y dyfodol, ar ôl Brexit, yn gwobrwyo canlyniadau amgylcheddol, a buaswn yn annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwnnw pan fyddaf yn ei lansio ddechrau mis Gorffennaf.