Hybu Twristiaeth

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 19 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:51, 19 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Byddaf yn cyfarfod yn rheolaidd â Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i drafod materion amrywiol, gan gynnwys twristiaeth. Rwyf wedi ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn ddiweddar ynghylch ehangder y cymorth y mae fy mhortffolio yn ei roi i'r diwydiant twristiaeth.