Cynllun y Taliad Sylfaenol

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 19 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 2:00, 19 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Iawn. Felly, bydd y sector amaethyddol ehangach a chymunedau gwledig ar eu colled hefyd, yn ogystal â'r ffermwyr eu hunain. Gwyddom fod newidiadau i dir a ddarganfuwyd mewn arolygiadau a newidiadau i fanylion cwsmeriaid yn achosi oedi, ac eglurwyd hynny i ni, ond mewn gwirionedd, yr unig beth y buaswn yn ei ofyn—. Oherwydd mae gennyf ffermwyr yn fy etholaeth sy'n ei chael hi’n anodd a dweud y gwir. Felly, nid oes esgus, mewn gwirionedd, am oedi diangen wrth dalu. Felly, a wnewch chi osod targed ar gyfer mynd i'r afael â'r rhain fel bod ffermwyr ledled Cymru yn cael yr arian sy’n ddyledus iddynt?