Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 19 Mehefin 2019.
Diolch, Weinidog, ac rwy'n falch iawn o weld canlyniad llwyddiannus i'r trafodaethau hynny ac i hynt y Bil Amaethyddiaeth yn San Steffan wrth gwrs, wrth i'r cyfrifoldebau hyn gael eu trosglwyddo yma i Gaerdydd.
A wnaiff y Gweinidog gadarnhau na fydd yn defnyddio unrhyw godiad yn yr incwm o'r ardoll i wneud iawn am unrhyw ddiffyg yng nghyllid Llywodraeth Cymru a allai ddigwydd yn y dyfodol, ac mewn gwirionedd, y bydd unrhyw arian ychwanegol sy'n mynd i Hybu Cig Cymru yn arian newydd sydd ar gael i'r corff hyrwyddo ar gyfer hybu gwerthiant cig coch naill ai yma yng Nghymru, y DU, neu ar draws y byd?