Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 19 Mehefin 2019.
Wel, mae Bil amaeth y DU wedi dod i stop braidd yn Llundain ar hyn o bryd. Rwy'n deall y rhesymau pam—maent yn aros am ddyddiad ar gyfer dadl. Roeddwn innau hefyd yn falch iawn ynglŷn â chanlyniad fy nhrafodaethau â'r Ysgrifennydd Gwladol. Roeddwn yn meddwl ei bod yn bwysig iawn cael gwelliant gan y Llywodraeth, felly rwy'n falch iawn o hynny.
Yn amlwg, mae angen inni edrych ar ba arian a fydd yn dod; yn sicr, nid wyf yn credu y byddai HCC ac eraill yn caniatáu i hynny ddigwydd, ond yn amlwg, mae angen inni gael y pwerau hynny yn y lle cyntaf. Mae fy swyddogion wedi bod yn cael trafodaethau cychwynnol gyda swyddogion DEFRA ynglŷn â sut y gweithredwn—wel, sut y drafftiwn y cynllun yn gyntaf oll. Mae angen inni gael y cynllun yn iawn ac yna ei weithredu. Byddaf yn hapus iawn i roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am hyn oherwydd mae wedi bod yn llusgo yn ei flaen ers llawer gormod o flynyddoedd.