Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 19 Mehefin 2019.
Diolch, Lywydd. Weinidog, rwyf wedi gofyn i chi ynglŷn â hyn sawl gwaith, ac yn wir holais y Prif Weinidog yn ei gylch ddoe, sef eich bod wedi dweud yn eich datganiad a oedd ynghlwm wrth y cyhoeddiad ynghylch anelu i fod yn sero net erbyn 2050, mai'r daith honno fydd y newid economaidd mwyaf a gynlluniwyd erioed yn yr oes fodern, ac rydych hefyd wrth gwrs wedi gwneud datganiad ar argyfwng hinsawdd. Ond pan edrychaf ar gofnodion y cyfarfod Cabinet hwnnw ar 29 Ebrill, rhoddwyd gwybod i'r Cabinet am y datganiad o dan 'unrhyw fater arall', ac mae'n dweud:
Hysbysodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig y Cabinet ei bod wedi datgan argyfwng newid hinsawdd... y diwrnod hwnnw.
Go brin fod hynny'n dangos llawer o gynllunio neu gynllunio pethau y bydd angen ichi eu gwneud er mwyn newid yr economi a diogelu swyddi a chreu swyddi o safon. A ydych chi'n credu bod honno'n ffordd briodol i'r Cabinet weithio?