Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 19 Mehefin 2019.
Wel, rydych chi'n darllen cofnodion y Cabinet; ni fyddwch yn ymwybodol o'r holl drafodaethau a ddigwyddodd cyn datgan argyfwng hinsawdd. Mae grŵp gorchwyl a gorffen y Gweinidog ar ddatgarboneiddio a gadeirir gennyf yn cyfarfod bob chwe wythnos/dau fis. Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt drwy'r grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw. Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn aelod o'r pwyllgor hwnnw.
Y cynllun cyflawni carbon isel y cyfeiriais ato unwaith neu ddwy eisoes yn y sesiwn hon oedd lle y gwnaethom nodi ein 100 o bolisïau ac argymhellion. Unwaith eto, bu llawer o drafodaethau ar draws y Cabinet ar gyflwyno hynny, ac mae hyn i gyd yn rhan—. Fel y dywedais ddoe, mae'r holl rannau hyn: datgarboneiddio, lliniaru newid hinsawdd, ansawdd aer, i gyd yn hollbwysig—maent yn bethau ar wahân, ond maent yn hollbwysig. Felly, mae'r trafodaethau hynny—. Nid dim ond cyhoeddiad a wnaed gennyf fi ydoedd; roedd pobl yn ymwybodol iawn fod y cyhoeddiad hwnnw'n dod.