Y Grant Busnes i Ffermydd

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 19 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:06, 19 Mehefin 2019

Diolch. Mi fu Undeb Amaethwyr Cymru mewn cyswllt efo fi ar ran un o'i aelodau ychydig fisoedd yn ôl, am fod cais etholwr am grant wedi methu oherwydd ei fod o wedi peidio â darparu llythyr gan ei gyfrifydd i gadarnhau bod trosiant ei fusnes o dan £1 miliwn. Mi ddylwn i ddweud bod ei drosiant o ymhell dan £1 miliwn ac mi ddylwn i ychwanegu bod bron pob ffermwr yng Nghymru â throsiant o dan £1 miliwn. Ond mi oedd y penderfyniad yma'n golygu ei fod o wedi colli £5,000 er ei fod o wedi darparu llythyr unwaith y daeth yn hysbys bod angen iddo fo wneud hynny. Mi apeliais i'n uniongyrchol atoch chi—diolch am eich ymateb chi—ac mae swyddogion erbyn hyn wedi addasu blaen y llythyr yn y pecyn cais er mwyn amlygu'r angen am y dystiolaeth yma. Dwi'n croesawu hynny, ond, wrth gwrs, mae hynny'n awgrymu i fi, fel dwi'n gwybod sy'n wir, nad oedd o'n ddigon clir bod angen cynnwys y llythyr cyfrifydd yna. Dwi'n deall bod sawl achos tebyg arall dros Gymru wedi dod i'r amlwg erbyn hyn, efo cyfartaledd o golled o thua £5,500, sydd yn swm sylweddol i fferm fach. Yn ôl eich ffigurau chi, dim ond un ym mhob 100 o ffermydd Cymru sydd â throsiant dros £1 miliwn. Oni ddylech chi felly edrych eto ar y mater yma, gan ei fod o'n amlwg yn broblem mwy cyffredin na dim ond fy etholwr i? Dwi am ichi edrych eto ar y ceisiadau sydd wedi cael eu gwrthod am y rheswm yma, ac mi fyddwn i'n gwerthfawrogi pe gallech chi ddweud wrthym ni faint o geisiadau sydd wedi eu colli am y rheswm yma.