1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 19 Mehefin 2019.
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y grant busnes i ffermydd? OAQ54071
Diolch. Mae'r grant busnes i ffermydd yn un o ymrwymiadau 'Symud Cymru Ymlaen' Llywodraeth Cymru. Hyd yma, mae ceisiadau 2,970 o ffermwyr am y grant busnes i ffermydd wedi cael eu derbyn, sy'n werth £20.6 miliwn o gymorth. Mae'r buddsoddiad ar y fferm hwn yn cefnogi'r broses o wella perfformiad technegol ac ariannol busnesau fferm yng Nghymru.
Diolch. Mi fu Undeb Amaethwyr Cymru mewn cyswllt efo fi ar ran un o'i aelodau ychydig fisoedd yn ôl, am fod cais etholwr am grant wedi methu oherwydd ei fod o wedi peidio â darparu llythyr gan ei gyfrifydd i gadarnhau bod trosiant ei fusnes o dan £1 miliwn. Mi ddylwn i ddweud bod ei drosiant o ymhell dan £1 miliwn ac mi ddylwn i ychwanegu bod bron pob ffermwr yng Nghymru â throsiant o dan £1 miliwn. Ond mi oedd y penderfyniad yma'n golygu ei fod o wedi colli £5,000 er ei fod o wedi darparu llythyr unwaith y daeth yn hysbys bod angen iddo fo wneud hynny. Mi apeliais i'n uniongyrchol atoch chi—diolch am eich ymateb chi—ac mae swyddogion erbyn hyn wedi addasu blaen y llythyr yn y pecyn cais er mwyn amlygu'r angen am y dystiolaeth yma. Dwi'n croesawu hynny, ond, wrth gwrs, mae hynny'n awgrymu i fi, fel dwi'n gwybod sy'n wir, nad oedd o'n ddigon clir bod angen cynnwys y llythyr cyfrifydd yna. Dwi'n deall bod sawl achos tebyg arall dros Gymru wedi dod i'r amlwg erbyn hyn, efo cyfartaledd o golled o thua £5,500, sydd yn swm sylweddol i fferm fach. Yn ôl eich ffigurau chi, dim ond un ym mhob 100 o ffermydd Cymru sydd â throsiant dros £1 miliwn. Oni ddylech chi felly edrych eto ar y mater yma, gan ei fod o'n amlwg yn broblem mwy cyffredin na dim ond fy etholwr i? Dwi am ichi edrych eto ar y ceisiadau sydd wedi cael eu gwrthod am y rheswm yma, ac mi fyddwn i'n gwerthfawrogi pe gallech chi ddweud wrthym ni faint o geisiadau sydd wedi eu colli am y rheswm yma.
Diolch. Yn amlwg, rwy'n gwybod am eich etholwr. Fel y dywedwch, rydych chi a minnau wedi gohebu, ac mae'r FUW a minnau wedi gohebu. Fe fyddwch yn ymwybodol na allaf roi sylwadau ar yr achos penodol hwnnw oherwydd y broses apelio. Credaf fod y grant busnes i ffermydd wedi cael croeso mawr. Y syniad oedd ein bod wedi ei wneud mor syml a hawdd â phosibl i'w ddefnyddio ar ein cyfer ni ein hunain ac ar gyfer ymgeiswyr. Bu ceisiadau nifer fach o bobl yn aflwyddiannus, ac yn sicr, byddaf—. Roeddwn yn credu bod y ffigur yma gennyf, ond ni allaf ddod o hyd iddo ar hyn o bryd. Ond credaf ei fod—. O, mae'n ddrwg gennyf; ysgrifennwyd at 688 o fusnesau ar ôl iddynt wneud ceisiadau i ofyn am lythyr cyfrifydd, a chymerwyd taliadau llai nag 1 y cant o fuddiolwyr yn ôl am eu bod wedi methu â darparu llythyr cyfrifydd cyn y dyddiad cau. Ond credaf eich bod yn llygad eich lle; mae angen i hyn fod yn amlwg iawn, ac yn sicr, rydym wedi adolygu hynny, ac fel y dywedwch, rydym wedi newid hynny. Rwy'n fwy na pharod i edrych, os gallwn adolygu'r ceisiadau—nid wyf yn gwybod a yw'n rhy hwyr. Ond fe fyddwch yn deall wrth gwrs ein bod yn cael ein harchwilio ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod hyn yn ddefnydd effeithiol o arian cyhoeddus ac mae'n rhaid inni gael rhai meini prawf. Ond rydym wedi ceisio sicrhau ei fod mor syml â phosibl.
Rwy'n datgan buddiant, yn amlwg, gan fy mod yn bartner mewn busnes ffermio. Weinidog, un o'r pethau sydd mor rhwystredig, yn aml iawn, yw'r cymhlethdod, yn benodol, ynghylch y cynlluniau grantiau coetir sydd ar gael. O ystyried bod llawer o drafod wedi bod yn y Siambr hon heno—y prynhawn yma, dylwn ddweud—ynglŷn â chynyddu'r defnydd o goetiroedd, a allwch ymrwymo'r adran i edrych ar sut y gellid symleiddio'r cynllun hwnnw er mwyn ei wneud yn llawer cyflymach o ran prosesu ceisiadau fel ei fod yn annog mwy o gyfranogiad? Gwn eich bod wedi agor cyfnod newydd yn ôl ym mis Ebrill ar gyfer hyn, ac rwy'n deall ei fod yn arian cyhoeddus a bod yn rhaid i'r archwilio a'r atebolrwydd fod yn gadarn, ond pan fydd gan fusnesau gyfnodau bach o amser, yn amlwg, ar gyfer plannu coed, mae angen iddynt fod yn hyderus y gellir prosesu'r grantiau y maent yn ymgeisio amdanynt yn brydlon. Yn sicr, mae etholwyr wedi dweud wrthyf fod y broses hon yn lletchwith iawn, yn fiwrocrataidd iawn, ac yn eu hatal rhag gwneud ceisiadau mewn gwirionedd.
Rydych yn gwneud pwynt da iawn. Yn amlwg, roedd y cwestiwn hwn yn ymwneud yn benodol â'r grant busnes i ffermydd, ac fel y dywedais yn fy ateb i Rhun ap Iorwerth, holl bwynt y cynllun hwn oedd ein bod wedi sicrhau ei fod mor hawdd a syml â phosibl. Roeddwn o'r farn ein bod wedi llwyddo i wneud hynny. Yn amlwg, mae'r mater a godwyd gan Rhun yn dangos nad oedd mor syml a hawdd ag y buaswn wedi gobeithio. Yn sicr, o ran grantiau eraill, bellach—mae angen i ni edrych ar sicrhau eu bod mor hawdd a syml â phosibl. Ac os yw Brexit yn darparu unrhyw gyfleoedd, yn amlwg, gan fod gennym ein polisi amaethyddol ein hunain ac rydym yn diwygio'r system daliadau, credaf fod hynny'n sicr yn rhywbeth y gallwn edrych arno. Oherwydd fel y dywedwch, os yw'n gyfnod bach iawn ar adeg brysur iawn o'r flwyddyn, mae angen i ni sicrhau y gall pawb ymgeisio amdano mor syml â phosibl. Rwy'n falch eich bod wedi adleisio'r pwynt a wneuthum o ran y defnydd mwyaf effeithiol o arian cyhoeddus.