Lleihau Llygredd Aer

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 19 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 2:11, 19 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Rwy'n croesawu eich datganiad ar aer glân ddoe ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf aer glân. Mae Caerllion yn un o 11 ardal ddynodedig ar gyfer rheoli ansawdd aer yng Nghasnewydd. Mae'r holl draffig sy'n llifo allan ar y strydoedd cul yn aml yn cael ei orfodi i stopio oherwydd cyfyngiadau a thagfeydd yn y system ffyrdd. Mae safleoedd o bwysigrwydd archeolegol yn golygu nad oes fawr o gyfle i newid cynllun y rhwydwaith ffyrdd lleol, ac mae llawer o gerbydau nwyddau trwm yn defnyddio'r ffordd yng Nghaerllion fel ffordd drwodd. Mae Cymdeithas Ddinesig Caerllion yn bwriadu gweithio gyda'r awdurdod lleol i roi camau gweithredu ar waith ar wella ansawdd aer yn yr ardal. A all y Gweinidog ddweud a fydd y Ddeddf aer glân yn darparu ar gyfer ymgysylltu â chymunedau sy'n ceisio gwella ansawdd aer?