Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 19 Mehefin 2019.
Wel, yn sicr, credaf y byddai'n rhaid iddi wneud hynny. Fel y soniais yn y datganiad ddoe, byddwn yn defnyddio'r cynllun aer glân i weld pa gynigion y credwn fod angen i ni eu cyflwyno ar gyfer y Ddeddf aer glân. Ond yn sicr, credaf fod gweithio gyda chymunedau yn gwbl hanfodol mewn unrhyw ardaloedd rydym yn ceisio'u gwella, a gobeithio y bydd Cyngor Dinas Casnewydd, yn sicr, yn gweithio gyda hwy pan fyddant yn edrych ar eu dull o reoli ansawdd aer lleol a lle maent yn monitro'r safleoedd, er enghraifft. Felly, rwy'n gobeithio y byddant yn cydweithio.