Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 19 Mehefin 2019.
Diolch am hynny. Nid wyf yn beirniadu'r penderfyniadau a wnaethoch; mewn gwirionedd, rwyf wedi eu cefnogi, ond yr hyn sy'n fy mhoeni yw'r gweithredu y tu ôl i rai o'r cyhoeddiadau hyn. Rhaid imi ddweud fy mod yn credu bod cofnodion y Cabinet i fod i adlewyrchu'r drafodaeth a ddigwyddodd yn y Cabinet. Ac rwy'n cytuno bod hwn yn ymateb gan y Llywodraeth gyfan. Rydym wedi clywed ers y datganiadau hynny fod y Llywodraeth yn amlwg yn gorfod ymdrin â'r holl faterion sy'n ymwneud â'u portffolio polisïau, ond nid yw'r cofnodion hynny'n dangos yn glir i mi fod y drafodaeth honno wedi digwydd. Felly, yn amlwg, rydych chi'n dweud wrthym ei bod wedi digwydd. Er enghraifft, a allwch ddweud wrthyf faint o swyddi a gollir yn economi Cymru oherwydd y trawsnewid a faint o swyddi a allai gael eu creu yn y chwyldro gwyrdd y gobeithiwn ei weld? Mae hwnnw'n gwestiwn eithaf syml, ac os yw Ken Skates wedi bod yn aelod o'ch pwyllgor, gadewch i ni ddeall y newid hwn rydych wedi'i drafod a'r hyn y gallem ei ddisgwyl neu fel arall wrth inni symud ymlaen.