Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 19 Mehefin 2019.
Diolch yn fawr, Weinidog. Mae hwnnw'n ymateb eithaf calonogol mewn gwirionedd, oherwydd pan gyflwynais gwestiwn Cynulliad ar hyn yn ddiweddar iawn, roedd 229 o hawliadau wedi bod yn aros i'w cwblhau ers mis Rhagfyr. Felly, fel y gwyddoch, mae Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru wedi bod yn weithgar yn hyrwyddo'r ffaith, am bob £1 a werir ar hyrwyddo'r ffaith—mae'n ddrwg gennyf, am bob £1 a fuddsoddir mewn cymorth i ffermydd yn y DU, mae ffermio'n rhoi £7.40 yn ôl i'r economi leol. Felly, mae'n amlwg fod—. Faint a ddywedoch chi eto, mae'n ddrwg gennyf? Cant pum deg—?