Part of the debate – Senedd Cymru am 7:05 pm ar 19 Mehefin 2019.
Ddirprwy Lywydd dros dro, hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl bwysig hon heddiw, ac rwy'n falch o gael cyfle i ymateb ar ran Llywodraeth Cymru. Rwy'n mynd i ddechrau drwy amlinellu peth o'r pwysau amlwg iawn sydd ar unigolion a chymunedau ar hyd a lled Cymru, ac mae'r pwysau cyntaf yn glir iawn: naw mlynedd o gyni. Mae'n ddrwg gennyf ddweud mai polisi ariannol Llywodraeth y DU dros ddegawd bron fu cael gwared ar lawer o'r strwythurau hanfodol sydd wedi cefnogi cymunedau dros nifer o ddegawdau. Mae toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol wedi golygu colli cyfleusterau lleol, megis llyfrgelloedd, adeiladau cymunedol a mannau cyhoeddus, ac mae wedi arwain at ddisbyddu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol fel plismona. Nid rhethreg wleidyddol yw hyn. Mae'r rapporteur arbennig ar dlodi eithafol a hawliau dynol wedi cyflwyno adroddiad ar hyn yn ddiweddar ar ôl ei ymweliad â'r DU. Ac mae o'r farn fod llawer o'r glud sydd wedi dal cymdeithas Prydain at ei gilydd ers yr Ail Ryfel Byd wedi cael ei dynnu'n fwriadol ac ethos llym ac angharedig wedi'i osod yn ei le.
Dywedodd nad yw economi ffyniannus, cyflogaeth uchel a gwarged cyllideb wedi gwrthdroi cyni, polisi a ddilynir yn fwy fel agenda ideolegol nag un economaidd.
Gadewch i mi roi mewn cyd-destun pa mor wahanol y gallai pethau fod wedi bod pe na bai'r polisi hynod niweidiol hwn wedi cael ei ddilyn. Byddai ein cyllidebau wedi tyfu mwy na £4 biliwn rhwng 2009 a 2019 pe bai'r economi a'n cyllidebau wedi tyfu'n unol â hynny. Pe bai ein cyllidebau wedi dilyn y tueddiad o dwf mewn gwariant cyhoeddus ers 1945, byddem wedi denu £6 biliwn o fuddsoddiad ychwanegol at ein defnydd yng Nghymru. A chredaf ei bod yn annirnadwy i unrhyw Aelod o'r Siambr hon awgrymu, yn y cyd-destun hwn, a chyda'r lefel honno o doriad yn ein cyllidebau, nad yw cyni wedi cyfrannu'n sylweddol at dlodi yng Nghymru.
Nawr, yr ail ffactor sydd wedi cael effaith fawr ar lefelau tlodi yng Nghymru yw rhaglen ddiwygio trethi a lles Llywodraeth y DU. O ganlyniad i'r diwygiadau, rhagwelir y bydd 50,000 yn rhagor o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru erbyn iddynt gael eu cyflwyno'n llawn. Ac rwy'n credu ei bod yn warthus fod y rhai sy'n fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yn cael eu targedu yn y fath fodd gan y polisïau niweidiol hyn. Beth y gallwn ei wneud felly yn erbyn y cefndir hwn? Wel, gwyddom nad oes gennym y prif ddulliau sydd eu hangen i wneud gwahaniaeth i'r prif ffigur tlodi. Wrth gwrs, y dreth a'r system les sy'n dylanwadu ar hyn. Fodd bynnag, heb newid cyfeiriad gan Lywodraeth y DU, rydym yn parhau i wneud popeth a allwn i gefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau wrth iddynt geisio ymdopi ag effaith anghymesur y polisïau dinistriol hyn. Mae'r Prif Weinidog, wrth gwrs, wedi cynnwys tlodi fel maes blaenoriaeth ychwanegol ym mhroses gynllunio cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021, ac mae gwaith yn mynd rhagddo gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar adolygu rhaglenni cyllid Llywodraeth Cymru i sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf posibl ar fywydau plant sy'n byw mewn tlodi.
Rydym wedi bod yn gwbl glir. Ni ddylai amgylchiadau economaidd ei rieni bennu cyfleoedd bywyd plentyn. Nid ydym yn derbyn bod bywyd mewn tlodi'n anochel. Mae amcanion ein strategaeth tlodi plant yn canolbwyntio cymaint ar gynorthwyo rhieni i gynyddu incwm eu cartrefi ag y maent ar fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau a ddaw yn sgil tlodi. Rydym yn cymryd camau i leihau nifer y plant sy'n byw ar aelwydydd heb waith, ac i wella sgiliau rhieni a phobl ifanc. Rwy'n credu hefyd ei bod yn hanfodol bwysig cydnabod bod 300,000 yn fwy o bobl mewn gwaith yng Nghymru bellach ers 1999. Ac mae cyfran y bobl o oedran gweithio sydd heb unrhyw gymwysterau wedi mwy na haneru. Mae cyfraddau anweithgarwch economaidd yng Nghymru bellach yn gymharol debyg i gyfartaledd y DU am y tro cyntaf erioed.
Gwnaeth Mike Hedges y pwynt ei fod yn credu nad oes digon o swyddi uchel eu gwerth yn cael eu creu yn yr economi. Rwy'n anghytuno â'r honiad hwn. Yn y gorffennol, buaswn yn dweud ei bod yn wir yn aml mewn llawer o amgylchiadau fod swyddi gwerth isel, sy'n talu'n wael, yn cael eu creu, ond roedd hynny mewn ymateb uniongyrchol i'r lefelau anhygoel o uchel o ddiweithdra. Heddiw, mae'n amlwg ein bod—ac rydym wedi mynegi hyn drwy'r cynllun gweithredu economaidd—yn canolbwyntio ar godi ansawdd a gwerth cyflogaeth yng Nghymru, yn enwedig drwy'r system sgiliau, gyda'n ffocws ar gefnogi hyfforddiant sgiliau lefel 3 ac uwch. Ac nid oes ond angen inni edrych ar rai o'r sectorau sy'n darparu'r lefelau uchaf o gynhyrchiant a chyflogau—gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, er enghraifft, gyda thwf yma yng Nghaerdydd ac ar draws Cymru ar lefel syfrdanol o gymharu â gweddill y DU. Awyrofod yw'r sector mwyaf cynhyrchiol yn economi Prydain, ac yma yng Nghymru mae gennym nifer anghymesur o uchel o bobl yn gweithio yn y sector hwnnw erbyn hyn—mwy nag 20,000 o bobl mewn swyddi gwerthfawr iawn.
Ers datganoli, mae nifer yr aelwydydd di-waith yng Nghymru wedi gostwng o bron 0.25 miliwn i 173,000. Dyna ostyngiad o 22.4 y cant, sydd unwaith eto'n well na pherfformiad y DU. Ynghyd â hyn, rydym yn cymryd camau i greu economi a marchnad lafur gref sy'n creu cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy gwirioneddol hygyrch i bawb, ac mae hyn yn greiddiol i'n hymagwedd tuag at drechu tlodi. Mae ein cynllun gweithredu economaidd wedi'i gynllunio i gefnogi'r gwaith o sicrhau economi gref, gwydn a deinamig, ac mae'n gynllun i dyfu'r economi yn gynhwysol a lleihau anghydraddoldeb. Mae'n sbarduno twf cynhwysol drwy sicrhau ein bod yn cael yr effaith fwyaf posibl ar yr economi sylfaenol a thrwy fodel newydd o ddatblygu economaidd rhanbarthol yn seiliedig ar le sy'n fwy addas ar gyfer goresgyn anghyfartaledd economaidd mewn gwahanol rannau o Gymru. Ac mae'r cynllun yn ceisio sicrhau bod mwy o swyddi o ansawdd da ar gael a grymuso cymunedau gyda'r sgiliau a'r seilwaith economaidd a all gefnogi swyddi gwell yn nes at adref. Un o gonglfeini'r cynllun yw'r contract economaidd sy'n ysgogi arferion busnes tecach a mwy cyfrifol gyda photensial i gefnogi cyfleoedd cynhwysol ar gyfer gwaith a chamu ymlaen mewn gwaith ac wrth gwrs, i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn gwaith anniogel, annibynadwy, a byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â'r partneriaid cymdeithasol hynod o bwysig hynny, gan gynnwys y mudiad undebau llafur y siaradodd Dawn Bowden amdano.
Byddwn yn parhau i ddefnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael i ni ar draws y Llywodraeth er mwyn sicrhau bod gan unigolion, cartrefi a chymunedau y cryfder a'r gwydnwch sydd ei angen i oresgyn yr heriau hyn. Hoffwn ddiolch i'r ddau Aelod heddiw am eu cyfraniadau ac ailddatgan fy ymrwymiad i weithio gyda hwy wrth i ni fwrw ymlaen â'r gwaith hynod bwysig hwn.