10. Dadl Fer: Tlodi yng Nghymru: Beth sy'n ei achosi a beth y gellir ei wneud i'w liniaru

– Senedd Cymru am 6:52 pm ar 19 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:52, 19 Mehefin 2019

Sy'n dod â ni wedyn at eitem olaf y prynhawn yma. Os caf i ofyn i Aelodau i adael yn dawel, yn gwrtais ac yn gyflym.

Dwi'n galw ar y ddadl fer. Mae'r ddadl fer yn cael ei chyflwyno gan Mike Hedges. Mike Hedges.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Rwyf wedi rhoi munud i Dawn Bowden yn y ddadl hon. Mae'r ddadl yn ymwneud â thlodi mewn gwaith. Mae cydberthynas rhwng cyflwr economi Cymru, tlodi a chyflogau isel.

Dylai economi Gymreig lwyddiannus godi cyflogau a lleihau tlodi. Mae gormod o'r bobl sy'n byw yng Nghymru yn cael eu cyflogi ar gontractau 'hyblyg'—contractau a alwaf yn rhai 'camfanteisiol'—contractau heb unrhyw sicrwydd o incwm wythnosol yn seiliedig ar oriau amrywiol a'r isafswm cyflog a bennir gan y Llywodraeth. Er bod llawer o'r drafodaeth ddiweddar wedi canolbwyntio ar gontractau dim oriau, yn anffodus nid dyma'r unig arfer cyflogaeth 'hyblyg' a ddefnyddir gan gyflogwyr. Mae arferion cyflogaeth hyblyg eraill yn cynnwys oriau gwarantedig byr, rhannu sifftiau, oriau blynyddol a defnyddio staff asiantaeth. Yn ogystal â'r contractau byrdymor a dros dro traddodiadol, gwelwyd cynnydd yn nifer yr arferion cyflogaeth newydd hyn.

Mae nifer gynyddol o gwmnïau yn cyflogi staff ar gontractau dim oriau, lle mae pobl yn cytuno i fod ar gael i weithio yn ôl yr angen, ond heb unrhyw oriau nac amseroedd gwaith gwarantedig. Mae contractau dim oriau yn darparu cronfa o bobl ar alwad i gyflogwyr, ac mae hynny'n rhoi'r holl risg ariannol ar ysgwyddau'r cyflogai nad yw eu hincwm wedi'i warantu. Dyma enghraifft o'r hen 'aros y tu allan i'r dociau i gael eich galw', ond nawr rydych yn aros gartref am neges destun.

Un amrywiad ar gontractau dim oriau yw lle ceir gwarant o gyn lleied ag awr y dydd, a phan fydd pobl yn cyrraedd y gwaith byddant yn darganfod bryd hynny pa mor hir fydd y sifft. Gan ddechrau am 8 a.m., efallai y byddwch yn gorffen am 9.00 a.m. neu efallai bydd rhaid i chi weithio tan yn hwyr gyda'r nos, tan 9.00 p.m. o bosibl, yn dibynnu ar y llwyth gwaith a nifer y bobl sydd ar gael y diwrnod hwnnw. Mae hwn yn batrwm gwaith aflonyddgar iawn gan na allwch wneud cynlluniau ar gyfer unrhyw ran o'r diwrnod tan y diwrnod ei hun, ac mae cyflogau hefyd yn amrywio o wythnos i wythnos. Un pryder, os caiff contractau dim oriau eu gwahardd, yw mai dyma a ddaw yn eu lle, ac i lawer gormod o bobl—byddant yn mynd i mewn, yn dechrau gweithio, ac yna'n darganfod pryd y byddant yn mynd adref. Ond os ydych yn gofalu am blant neu os oes gennych gyfrifoldebau gofalu am rieni neu bobl eraill, mae'n gwneud bywyd yn eithriadol o anodd pan nad oes gennych unrhyw oriau gwarantedig. Pan ddeuthum i mewn y bore yma, roeddwn yn gwybod fy mod yn mynd i adael tua 7.30 p.m., a phan fyddaf yn dod i mewn yfory rwy'n gwybod y byddaf yn gadael tua 1.30 p.m. Mae gormod o bobl yn mynd i'r gwaith ac nid oes ganddynt syniad pryd y byddant yn mynd adref. Mae'n amharu'n llwyr ar eu bywydau.  

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 6:55, 19 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Mae dim oriau ac oriau wythnosol neu ddyddiol gwarantedig byr yn golygu nad oes sicrwydd incwm ar sail wythnosol neu fisol. Mae hyn yn arwain at broblemau ariannol difrifol pan nad oes llawer o oriau, os o gwbl, yn cael eu gweithio mewn unrhyw wythnosau. A'r peth pwysig yw: peidiwch byth â bod yn sâl, oherwydd pan fyddwch yn sâl byddwch yn mynd yn ôl naill ai i'ch lleiafswm o un awr neu ddim oriau, a'r banc bwyd yw'r unig obaith o gael bwyd.

Mae defnyddio staff a gyflogir drwy asiantaeth yn golygu mai'r asiantaeth sydd â'r rhan fwyaf o gyfrifoldebau cyflogaeth. Ar ôl 12 wythnos yn yr un rôl yn gweithio i'r un cyflogwr, mae hawl gan weithwyr asiantaeth i gael yr un amodau cyflogaeth a gwaith â staff parhaol. Yn hollbwysig, fodd bynnag, nid oes gan weithwyr asiantaeth hawl i gael budd-daliadau megis tâl salwch galwedigaethol, tâl dileu swydd ac yswiriant iechyd, yr hawl i wneud cais am ddiswyddo annheg, a rhybudd diswyddo lleiaf lle byddant yn gweithio. Mae hyn yn golygu bod staff asiantaeth yn llawer haws i'w diswyddo na staff a gyflogir yn uniongyrchol oherwydd eu bod yn cael eu cyflogi gan yr asiantaeth, nid y cwmni lle maent yn gweithio. A hefyd, mae'r 12 wythnos yn bwysig iawn, oherwydd ar ôl 11 wythnos os byddwch yn eu symud ymlaen a'u bod yn dychwelyd bythefnos yn ddiweddarach, mae'r 12 wythnos sy'n rhaid i chi ei weithio i gael yr hawliau hynny'n ailddechrau unwaith eto gyda'r diwrnod cyntaf.

Mae ailenwi'r isafswm cyflog yn gyflog byw wedi achosi peth dryswch yn amlwg, gan fod cyflog byw cenedlaethol eisoes wedi'i gyfrifo gan y Living Wage Foundation. Ar hyn o bryd, mae bron i 6 miliwn o weithwyr yn y DU yn cael llai o gyflog na'r cyflog byw fel y'i diffinnir gan y Living Wage Foundation. Credaf fod yr achos dros dalu o leiaf y cyflog byw go iawn, fel y'i diffinnir gan y Living Wage Foundation, i bawb yn ddadl wirioneddol gref. Nid wyf yn credu ei bod hi'n gwneud synnwyr fod y Llywodraeth yn gorfodi isafswm cyflog nad ystyrir ei fod yn ddigon i allu byw arno, a bydd ei ailenwi'n gyflog byw yn arwain at ddrysu rhyngddo a'r cyflog byw go iawn, a dyna pam y credaf fod angen dybryd i bawb gael y cyflog byw fel y'i diffinnir gan y Living Wage Foundation. Nid oes a wnelo hyn â chael ffyrdd o fyw egsotig; mae ond yn golygu eich bod yn gallu byw.

Un o'r problemau mwyaf sy'n ein hwynebu yng Nghymru heddiw yw tlodi mewn gwaith, sy'n rhywbeth y byddai'r cyflog byw yn helpu i fynd i'r afael ag ef, ac un o broblemau mwyaf Llywodraeth San Steffan yw talu budd-daliadau mewn gwaith, rhywbeth unwaith eto y byddai talu cyflog byw yn helpu i'w ddatrys. Credaf fod gan y Llywodraeth ddyletswydd foesol i sicrhau safon byw sy'n weddus i bawb.

Gwyddom hefyd ein bod yn gwneud yn dda iawn o ran nifer y bobl sy'n ddi-waith, ond os oes gennych rywun sy'n gweithio 40 awr ac yna fod dau berson ar gontractau 15 awr yn dod yn ei le, ac un person ar 10 awr, rydych wedi sicrhau bod dau yn fwy o bobl yn cael eu cyflogi, sy'n dda o ran diweithdra, ond yn hytrach na chael un gweithiwr sy'n cael ei dalu'n gymharol dda, mae gennych dri gweithiwr ar gyflog isel iawn, ac mae hynny'n effeithio nid yn unig ar y bobl, mae'n effeithio ar y budd-daliadau y maent yn eu cael, ac mae hefyd yn effeithio ar dderbyniadau treth y Llywodraeth yn San Steffan.

Mae manteision hefyd i gyflogwyr yn ôl adroddiad y Living Wage Foundation. Mae cyflogwr cyflog byw yn sicrhau bod yr holl gyflogeion yn cael y cyflog byw fan lleiaf; mae hyn yn cynnwys unigolion sy'n gweithio ar sail reolaidd ar eich safle i gontractiwr neu is-gontractiwr, fel glanhawyr neu staff diogelwch. Mae cyflogwyr cyflog byw yn nodi bod morâl yn well, trosiant staff yn is, llai o absenoldeb, mwy o gynhyrchiant a gwell gwasanaeth i gwsmeriaid.

Rhaid i ni anelu i greu economi cyflog uchel a sgiliau uchel, a byddai dod yn wlad cyflog byw yn un cam pellach ar hyd y ffordd honno. 'Ni allwn ei fforddio a bydd yn arwain at lai o swyddi' yw'r ddadl a ddefnyddiwyd yn erbyn pob newid blaengar, o ddiddymu caethwasiaeth i'r isafswm cyflog. 'Na, ni allwn ei fforddio, bydd yn arwain at fethdaliad.' Pan oeddem yn ymladd am yr isafswm cyflog, un o lwyddiannau mawr Tony Blair a'r Llywodraeth Lafur yn 1997, rwy'n cofio pobl yn dweud, 'O, bydd yn rhaid inni ddiswyddo pobl; bydd yn rhaid i ni dorri staff', fel pe bai cyflogi pobl yn weithred ddyngarol y byddai cyflogwyr yn ei gwneud, ac y byddent yn rhoi'r gorau i'w gwneud am y byddai'n rhaid iddynt dalu mwy. Yr hyn a ganfuwyd mewn gwirionedd oedd bod mwy o bobl yn cael eu cyflogi am fod gennych fwy o arian yn yr economi leol, ac roedd yn cynyddu galw.

Enillasom y frwydr dros yr isafswm cyflog; ni chollwyd y swyddi. Efallai ei fod wedi lleihau gwerthiant y ceir mwyaf crand, ond rhoddodd arian ym mhocedi pobl a bu'n help mawr i economïau lleol. Os ydym yn talu mwy o arian i bobl sy'n gymharol dlawd, maent yn ei wario'n lleol. Os ydych yn talu mwy o arian i bobl sy'n gyfoethog iawn, maent yn tueddu i'w wario mewn mannau eraill. Mae gwir angen inni ddod yn wlad cyflog byw, ond mae angen mwy na hynny. Credaf y byddai bod yn wlad cyflog byw yn gwneud Cymru'n wlad decach, ac mae hwn yn bolisi y gallai pob un ohonom sy'n byw yng Nghymru fod yn falch ohono ac yn un y dylem ni fel sosialwyr, ar ein hochr ni, ymgyrchu drosto.

Camau gweithredu y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith, ac rwyf wedi gofyn am hyn o'r blaen a byddaf yn gofyn amdanynt eto, a byddaf yn dal i ofyn amdanynt: sicrhau bod pob gweithiwr sector cyhoeddus a gyflogir gan gyrff a ariennir yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru yn cael y cyflog byw go iawn; gwneud talu'r cyflog byw go iawn yn rhagamod ar gyfer contractio gyda chyrff sector cyhoeddus a ariennir drwy Lywodraeth Cymru, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol; gwneud talu'r cyflog byw go iawn yn rhagamod i grantiau a benthyciadau i gwmnïau preifat; gwahardd contractau camfanteisiol gan gyrff a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'u contractwyr a'u his-gontractwyr. gwneud cymorth ariannol i gwmnïau, yn grantiau a benthyciadau, yn ddibynnol ar gontractau nad ydynt yn gamfanteisiol.

Dim ond at ryw bwynt y bydd hyn yn mynd â ni, ond mae'n mynd â ni'n bell—. Ni ddylem annog a chefnogi cyflogau tlodi. Ni ddylem annog a chefnogi camfanteisio.  

Yr hyn sydd ei angen arnom, fodd bynnag, yw mwy o swyddi ar gyflogau uwch. Mae economi Cymru yn hynod o wan. Rwyf wedi dweud wrth Lywodraeth Cymru droeon ein bod yn brin iawn o sectorau cyflog uchel a phan gawn adroddiadau'n dod i mewn yn nodi lle rydym yn wan, mae'n dweud pethau fel 'TGCh', ac mae'n dweud pethau fel 'bancio ac yswiriant', ac mae'n dweud pethau am wasanaethau proffesiynol—y meysydd ar y brig gyda chyflogau uchel.

Felly, beth sydd angen i ni ei wneud yng Nghymru? Credaf fod angen inni weithio'n agosach gyda'r prifysgolion: Aarhus, er enghraifft, a model y parc busnes, ac mae gan Manheim ganolfan ar gyfer arloesi ac entrepreneuriaeth. Gwyddom eu bod yn gweithio yn y dinasoedd hynny. Nid oes unrhyw rheswm pam na allant weithio yma. Mae'n hawdd dweud, 'O, mae Caergrawnt yn llwyddiannus iawn; mae ganddi barc gwyddoniaeth.' Abertawe, Caerdydd a Chaergrawnt? Na. Ond a allem fod yr un fath â Manheim ac Aarhus? Nid oes unrhyw reswm pam na allem. Manheim yw'r ail ddinas o fewn ei Länder ac Aarhus yw'r ail ddinas yn Nenmarc—nid yn annhebyg i Abertawe.

Er bod y term 'technium' wedi dod yn gyfystyr â methiant, roedd y syniad gwreiddiol o'i ddefnyddio yn Abertawe i ddarparu cyfleusterau ar gyfer cwmnïau newydd a ddoi allan o'r brifysgol yn un da, ond roedd labelu pob ffatri ddatblygedig fel canolfannau technium yn sicr o fethu.

Ceir rhai camau syml a chyflym y gellid eu cymryd i wella economi Cymru: darparu benthyciadau mwy drwy'r banc masnachol i gwmnïau canolig eu maint. Nid ydym yn tyfu cwmnïau o faint canolig i fawr. Yn wir, yr unig gwmni y gallaf feddwl amdano sydd wedi gwneud hynny yn y blynyddoedd diwethaf yw Admiral. Mae gwir angen inni wthio cwmnïau o fod yn ganolig i fod yn fawr, gan fod llawer gormod o gwmnïau canolig eu maint, yn anffodus, yn gwerthu allan.

Gallem ddarparu benthyciadau yn erbyn asedau tramor a gosod contractau Llywodraeth o faint y gall cwmnïau canolig eu maint yng Nghymru ymgeisio amdanynt. Mae angen i ni ei gwneud yn haws i ficrogwmnïau ehangu. Mae angen inni dyfu mewn sectorau economaidd allweddol. Pam fod Dundee yn gynhyrchydd gemau cyfrifiadurol pwysig? Dyna ddinas arall—rwyf wedi ceisio dewis dinasoedd nad ydynt yn ddinasoedd mawr y byd, ond dinasoedd y mae gennym ni yng Nghymru ddinasoedd tebyg iawn iddynt.

Gellir cynhyrchu gemau cyfrifiadurol yn unrhyw le yn y byd. Daeth Abertay o hyd i gefnogaeth wleidyddol ac ariannol i sefydlu adran newydd a gynigiai'r radd gyntaf yn y byd mewn gemau cyfrifiadurol yn 1997. Erbyn hyn ceir dyrnaid o raddau cysylltiedig, gan gynnwys dylunio gemau a rheoli cynhyrchu, a chwrs BSc diddorol o'r enw 'hacio moesegol'. Caiff cannoedd o raddedigion gemau eu cynhyrchu gan Abertay bob blwyddyn, gan gynnwys David Jones, sylfaenydd DMA Design. Ar ôl Lemmings yn 1991, rhyddhaodd yr argraffiad cyntaf o'r gêm ddadleuol Grand Theft Auto yn 1997. Gwerthwyd miliynau, ac mae fersiynau newydd yn parhau i ddod i frig siartiau'r gemau. Mae galw am wneuthurwyr gemau hyfforddedig yn y diwydiant gemau ym mhob rhan o'r byd. Mae nifer sylweddol ohonynt yn aros yn yr ardal, yn creu gemau ac yn adeiladu cwmnïau newydd gyda thimau y gwnaethant gyfarfod â hwy wrth astudio.

Creu parc busnes tebyg i Aarhus neu ganolfan Manheim ar gyfer arloesi ac entrepreneuriaeth, neu Dundee yn datblygu diwydiannau ar y cyd â'r Brifysgol—nid yw'r rhain yn bethau anodd; dyma sy'n rhaid inni ei wneud os ydym am dyfu ein heconomi. Yr hyn sydd arnom ei angen yw polisïau sy'n gweithio i gefnogi twf cwmnïau yng Nghymru a sefydlu rhai newydd. Nid ydym ni yng Nghymru yn meddu ar lai o sgiliau, entrepreneuriaeth a gallu nag unman arall yn y byd. Yr hyn sy'n rhaid inni ei wneud yw sicrhau y gallwn greu'r cwmnïau hyn yng Nghymru, a gadewch inni sicrhau cyflogau da i bobl a byddai hynny o ddifrif yn hybu ein heconomi. Diolch.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 7:03, 19 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i Mike Hedges am roi munud i mi yn y ddadl hon, ac yn y funud honno, ni allaf ymdrin â'r holl resymau dros dlodi na siarad yn fanwl am y modd y gallwn ei leddfu? Ond roeddwn eisiau sôn am ddau beth y credaf fod angen i ni eu cydnabod. Yn gyntaf, rôl amhrisiadwy mudiad yr undebau llafur yn y frwydr yn erbyn tlodi. Y profiad o dlodi ymhlith gweithwyr a arweiniodd at ffurfio undebau llafur, ac mae undebau llafur yn parhau i fod ar flaen y gad yn y gwaith hwn heddiw ac yn parhau i chwarae rôl hanfodol yn helpu i frwydro yn erbyn malltod presennol tlodi mewn gwaith. Yn ail, gwyddom am yr ystadegau'n ymwneud â gwaith banciau bwyd neu nifer y bobl sy'n cael eu taro gan gredyd cynhwysol neu nifer y bobl ar gontractau dim oriau anniogel, a grybwyllwyd gan Mike eisoes, ond mae angen inni gydnabod pwysigrwydd parhau i gefnogi'r alwad ar i'r Llywodraeth flaenoriaethu ei hagenda gwrthdlodi, oherwydd mae'r bobl rwy'n eu cyfarfod yn fy nghymorthfeydd etholaethol bron bob wythnos yn mynnu hynny gennym—pobl sy'n cael trafferth gyda dyled, pobl sy'n cael trafferth gyda'u biliau ynni, pobl sy'n methu talu eu rhent yn y sector preifat ac sy'n methu dod o hyd i ddewis arall mwy addas, ac mae'r plant a welaf mewn cynlluniau gweithgareddau gwyliau hefyd yn cael cymorth i gael pryd o fwyd y diwrnod hwnnw i oresgyn chwant bwyd dros y gwyliau. Os na allwn drechu tlodi, ni allwn fynd i'r afael â diffyg arian yn yr economi leol mewn ardaloedd lle ceir yr amddifadedd mwyaf, a bydd ardaloedd o'r fath yn parhau i ddirywio, a rhaid inni wrthdroi hynny. Mae gwrthdroi hynny'n dechrau gyda blaenoriaethau'r Llywodraeth, drwy brawfesur pob agwedd ar ei pholisi o safbwynt tlodi. Mae'n gwneud synnwyr economaidd da i wneud hynny.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 7:05, 19 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Galwaf ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ymateb i'r ddadl—Ken Skates.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Cyfieithwyd)

Ddirprwy Lywydd dros dro, hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl bwysig hon heddiw, ac rwy'n falch o gael cyfle i ymateb ar ran Llywodraeth Cymru. Rwy'n mynd i ddechrau drwy amlinellu peth o'r pwysau amlwg iawn sydd ar unigolion a chymunedau ar hyd a lled Cymru, ac mae'r pwysau cyntaf yn glir iawn: naw mlynedd o gyni. Mae'n ddrwg gennyf ddweud mai polisi ariannol Llywodraeth y DU dros ddegawd bron fu cael gwared ar lawer o'r strwythurau hanfodol sydd wedi cefnogi cymunedau dros nifer o ddegawdau. Mae toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol wedi golygu colli cyfleusterau lleol, megis llyfrgelloedd, adeiladau cymunedol a mannau cyhoeddus, ac mae wedi arwain at ddisbyddu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol fel plismona. Nid rhethreg wleidyddol yw hyn. Mae'r rapporteur arbennig ar dlodi eithafol a hawliau dynol wedi cyflwyno adroddiad ar hyn yn ddiweddar ar ôl ei ymweliad â'r DU. Ac mae o'r farn fod llawer o'r glud sydd wedi dal cymdeithas Prydain at ei gilydd ers yr Ail Ryfel Byd wedi cael ei dynnu'n fwriadol ac ethos llym ac angharedig wedi'i osod yn ei le.

Dywedodd nad yw economi ffyniannus, cyflogaeth uchel a gwarged cyllideb wedi gwrthdroi cyni, polisi a ddilynir yn fwy fel agenda ideolegol nag un economaidd.

Gadewch i mi roi mewn cyd-destun pa mor wahanol y gallai pethau fod wedi bod pe na bai'r polisi hynod niweidiol hwn wedi cael ei ddilyn. Byddai ein cyllidebau wedi tyfu mwy na £4 biliwn rhwng 2009 a 2019 pe bai'r economi a'n cyllidebau wedi tyfu'n unol â hynny. Pe bai ein cyllidebau wedi dilyn y tueddiad o dwf mewn gwariant cyhoeddus ers 1945, byddem wedi denu £6 biliwn o fuddsoddiad ychwanegol at ein defnydd yng Nghymru. A chredaf ei bod yn annirnadwy i unrhyw Aelod o'r Siambr hon awgrymu, yn y cyd-destun hwn, a chyda'r lefel honno o doriad yn ein cyllidebau, nad yw cyni wedi cyfrannu'n sylweddol at dlodi yng Nghymru.  

Nawr, yr ail ffactor sydd wedi cael effaith fawr ar lefelau tlodi yng Nghymru yw rhaglen ddiwygio trethi a lles Llywodraeth y DU. O ganlyniad i'r diwygiadau, rhagwelir y bydd 50,000 yn rhagor o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru erbyn iddynt gael eu cyflwyno'n llawn. Ac rwy'n credu ei bod yn warthus fod y rhai sy'n fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yn cael eu targedu yn y fath fodd gan y polisïau niweidiol hyn. Beth y gallwn ei wneud felly yn erbyn y cefndir hwn? Wel, gwyddom nad oes gennym y prif ddulliau sydd eu hangen i wneud gwahaniaeth i'r prif ffigur tlodi. Wrth gwrs, y dreth a'r system les sy'n dylanwadu ar hyn. Fodd bynnag, heb newid cyfeiriad gan Lywodraeth y DU, rydym yn parhau i wneud popeth a allwn i gefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau wrth iddynt geisio ymdopi ag effaith anghymesur y polisïau dinistriol hyn. Mae'r Prif Weinidog, wrth gwrs, wedi cynnwys tlodi fel maes blaenoriaeth ychwanegol ym mhroses gynllunio cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021, ac mae gwaith yn mynd rhagddo gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar adolygu rhaglenni cyllid Llywodraeth Cymru i sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf posibl ar fywydau plant sy'n byw mewn tlodi.  

Rydym wedi bod yn gwbl glir. Ni ddylai amgylchiadau economaidd ei rieni bennu cyfleoedd bywyd plentyn. Nid ydym yn derbyn bod bywyd mewn tlodi'n anochel. Mae amcanion ein strategaeth tlodi plant yn canolbwyntio cymaint ar gynorthwyo rhieni i gynyddu incwm eu cartrefi ag y maent ar fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau a ddaw yn sgil tlodi. Rydym yn cymryd camau i leihau nifer y plant sy'n byw ar aelwydydd heb waith, ac i wella sgiliau rhieni a phobl ifanc. Rwy'n credu hefyd ei bod yn hanfodol bwysig cydnabod bod 300,000 yn fwy o bobl mewn gwaith yng Nghymru bellach ers 1999. Ac mae cyfran y bobl o oedran gweithio sydd heb unrhyw gymwysterau wedi mwy na haneru. Mae cyfraddau anweithgarwch economaidd yng Nghymru bellach yn gymharol debyg i gyfartaledd y DU am y tro cyntaf erioed.  

Gwnaeth Mike Hedges y pwynt ei fod yn credu nad oes digon o swyddi uchel eu gwerth yn cael eu creu yn yr economi. Rwy'n anghytuno â'r honiad hwn. Yn y gorffennol, buaswn yn dweud ei bod yn wir yn aml mewn llawer o amgylchiadau fod swyddi gwerth isel, sy'n talu'n wael, yn cael eu creu, ond roedd hynny mewn ymateb uniongyrchol i'r lefelau anhygoel o uchel o ddiweithdra. Heddiw, mae'n amlwg ein bod—ac rydym wedi mynegi hyn drwy'r cynllun gweithredu economaidd—yn canolbwyntio ar godi ansawdd a gwerth cyflogaeth yng Nghymru, yn enwedig drwy'r system sgiliau, gyda'n ffocws ar gefnogi hyfforddiant sgiliau lefel 3 ac uwch. Ac nid oes ond angen inni edrych ar rai o'r sectorau sy'n darparu'r lefelau uchaf o gynhyrchiant a chyflogau—gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, er enghraifft, gyda thwf yma yng Nghaerdydd ac ar draws Cymru ar lefel syfrdanol o gymharu â gweddill y DU. Awyrofod yw'r sector mwyaf cynhyrchiol yn economi Prydain, ac yma yng Nghymru mae gennym nifer anghymesur o uchel o bobl yn gweithio yn y sector hwnnw erbyn hyn—mwy nag 20,000 o bobl mewn swyddi gwerthfawr iawn.

Ers datganoli, mae nifer yr aelwydydd di-waith yng Nghymru wedi gostwng o bron 0.25 miliwn i 173,000. Dyna ostyngiad o 22.4 y cant, sydd unwaith eto'n well na pherfformiad y DU. Ynghyd â hyn, rydym yn cymryd camau i greu economi a marchnad lafur gref sy'n creu cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy gwirioneddol hygyrch i bawb, ac mae hyn yn greiddiol i'n hymagwedd tuag at drechu tlodi. Mae ein cynllun gweithredu economaidd wedi'i gynllunio i gefnogi'r gwaith o sicrhau economi gref, gwydn a deinamig, ac mae'n gynllun i dyfu'r economi yn gynhwysol a lleihau anghydraddoldeb. Mae'n sbarduno twf cynhwysol drwy sicrhau ein bod yn cael yr effaith fwyaf posibl ar yr economi sylfaenol a thrwy fodel newydd o ddatblygu economaidd rhanbarthol yn seiliedig ar le sy'n fwy addas ar gyfer goresgyn anghyfartaledd economaidd mewn gwahanol rannau o Gymru. Ac mae'r cynllun yn ceisio sicrhau bod mwy o swyddi o ansawdd da ar gael a grymuso cymunedau gyda'r sgiliau a'r seilwaith economaidd a all gefnogi swyddi gwell yn nes at adref. Un o gonglfeini'r cynllun yw'r contract economaidd sy'n ysgogi arferion busnes tecach a mwy cyfrifol gyda photensial i gefnogi cyfleoedd cynhwysol ar gyfer gwaith a chamu ymlaen mewn gwaith ac wrth gwrs, i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn gwaith anniogel, annibynadwy, a byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â'r partneriaid cymdeithasol hynod o bwysig hynny, gan gynnwys y mudiad undebau llafur y siaradodd Dawn Bowden amdano.

Byddwn yn parhau i ddefnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael i ni ar draws y Llywodraeth er mwyn sicrhau bod gan unigolion, cartrefi a chymunedau y cryfder a'r gwydnwch sydd ei angen i oresgyn yr heriau hyn. Hoffwn ddiolch i'r ddau Aelod heddiw am eu cyfraniadau ac ailddatgan fy ymrwymiad i weithio gyda hwy wrth i ni fwrw ymlaen â'r gwaith hynod bwysig hwn.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 7:13, 19 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. A daw hynny â'r trafodion i ben am heddiw.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:13.