Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 19 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:30, 19 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn ymuno â mi i groesawu'r adroddiad ardderchog a lansiwyd ddoe gan Tai Pawb, Sefydliad Tai Siartredig Cymru a Shelter Cymru ar yr hawl i dai digonol yng Nghymru. A chymeradwyaf yr adroddiad i'r holl Aelodau nad ydynt wedi cael cyfle i'w weld eto. Mae'r adroddiad yn gwneud achos cryf dros ymgorffori'r hawl i dai digonol yng nghyfraith Cymru, a hefyd yn nodi map clir ar gyfer sut y dylem gyrraedd y sefyllfa honno. A ydych yn cytuno y dylid cydnabod yr hawl i dai yng Nghymru mewn statud?