2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 19 Mehefin 2019.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, David Melding.
Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn ymuno â mi i groesawu'r adroddiad ardderchog a lansiwyd ddoe gan Tai Pawb, Sefydliad Tai Siartredig Cymru a Shelter Cymru ar yr hawl i dai digonol yng Nghymru. A chymeradwyaf yr adroddiad i'r holl Aelodau nad ydynt wedi cael cyfle i'w weld eto. Mae'r adroddiad yn gwneud achos cryf dros ymgorffori'r hawl i dai digonol yng nghyfraith Cymru, a hefyd yn nodi map clir ar gyfer sut y dylem gyrraedd y sefyllfa honno. A ydych yn cytuno y dylid cydnabod yr hawl i dai yng Nghymru mewn statud?
Ydw, yn sicr. Bûm yn siarad yn y digwyddiad ddoe. Yn anffodus, bu'n rhaid imi fynychu digwyddiad arall, felly cefais fy ngwasgu i mewn rhwng dwy ran o gyflwyniad awdur yr adroddiad i'r adroddiad. Ond gwnaeth y modd eglur y nododd rai o'r materion deddfwriaethol y bu'n ymchwilio iddynt argraff fawr arnaf, ac edrychaf ymlaen yn fawr at drafod manylion y map gyda fy swyddogion o ran sut i gyflawni rhai o'r argymhellion yn yr adroddiad ar gyfer Cymru. Ond yn fy nghyfraniad i'r digwyddiad hwnnw, dywedais ei bod nid yn unig yn bwysig sicrhau yn anad dim fod gan bobl dai fel hawl ddynol, ond ein bod mewn sefyllfa i ddarparu hynny mewn gwirionedd. Felly, er enghraifft, os oes gan unigolyn hawl i orfodi hynny, mae'n rhaid bod gennym gyflenwad digonol o dai, er mwyn iddynt allu cael y tai i fynd iddynt. Mae'n rhaid i ni hefyd sicrhau bod y mecanweithiau cymorth cywir ar waith gennym i alluogi pobl sydd ag amrywiaeth o anawsterau i aros yn eu cartrefi ac yn y blaen. Felly, er fy mod yn llwyr dderbyn diben yr adroddiad yn ei hanfod, ac yn cytuno ag ef, mae gennym amrywiaeth o faterion ymarferol i'w hystyried hefyd.
Diolch, Weinidog, am yr ateb calonogol iawn hwnnw, os caf ddweud. Ac rydych yn llygad eich lle pan ddywedwch fod angen strategaeth arnoch i allu sicrhau bod hawl yn bodoli yn ymarferol. Ac yn wir, mae'r adroddiad yn amlinellu'r hyn y mae angen ei wneud o ran strategaeth dai genedlaethol sy'n seiliedig ar hawliau. Ac yn wir, mae'n rhywbeth rwyf wedi galw amdano eisoes—a chredaf fod eraill yn rhannu'r dyhead hwn. Ac a gaf fi ddweud, byddai'n flwyddyn wych i ni pe gallem gyflawni ymrwymiad i ddatblygu'r strategaeth dai genedlaethol hon. Wedi'r cyfan, rydym yn prysur agosáu at ganmlwyddiant tai cyngor. Derbyniodd Ddeddf Tai a Chynllunio Trefol 1919—sy'n fwy adnabyddus fel Deddf Addison—Gydsyniad Brenhinol ym mis Gorffennaf 1919. Ac yn wir, rwy'n credu ei bod wedi cael sylw yn y cyfarfod, yn y lansiad ddoe.
Weinidog, a fydd yr adolygiad o dai fforddiadwy yn arwain at strategaeth dai genedlaethol, a fydd yn cynnwys targedau i gynyddu'r cyflenwad o dai yn ganolog iddi, ond a fydd yn mynd i'r afael â materion eraill hefyd?
Yn sicr, mae diddordeb mawr gennyf mewn edrych ar dai yn gyffredinol. Nid yr adolygiad tai fforddiadwy yn unig sydd gennym i'w ystyried. Rydych wedi fy nghlywed yn sôn eisoes yn y Cyfarfod Llawn heddiw am yr adolygiad datgarboneiddio. Mae gennym adolygiad polisi rhent, mae gennym adolygiad diwygio cyfraith lesddaliad, mae gennym adolygiad parhaus o angen blaenoriaethol—credaf fod dau arall nad wyf yn eu cofio ar hyn o bryd. Rwyf eisoes wedi trefnu cyfarfodydd â chadeiryddion pob un o'r adolygiadau hynny, a nifer o swyddogion, fel y gallwn edrych ar y cyfan, ar draws yr holl gyngor a gawsom, i allu meddwl am ymateb cydlynol i'r gyfres o adroddiadau. Gall hynny droi'n strategaeth, neu gallai beidio, ond rwy'n bwriadu sicrhau ymateb cydlynol yn gyffredinol. Ac rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod yr adroddiad a lansiwyd ddoe yn rhan o hynny.
Credaf mai'r strategaeth fyddai'r ffordd o edrych ar yr holl bethau hyn mewn ffordd gynhwysfawr. Rydych yn llygad eich lle—nid oes a wnelo hyn â thai fforddiadwy yn unig, mae'n ymwneud â'r maes tai yn ei gyfanrwydd. Ond mae meysydd allweddol eraill y gallem sôn amdanynt yma a ddylai fod yn rhan o strategaeth dai genedlaethol: dileu digartrefedd; cynyddu diogelwch deiliadaeth ar gyfer y genhedlaeth rhent—bron i 20 y cant o'r rheini mewn tai ar hyn o bryd; diwygio cyfraith lesddaliad; a llais cryf i'r tenant. Mae'r rhain oll yn bethau pwysig y dylem fod yn gwthio amdanynt. A Weinidog, onid yw'n bryd inni greu consensws ar y materion hyn—rhwng yr holl bleidiau yn y Siambr hon, rwy'n credu—y gallem ddod at ein gilydd, a chael strategaeth dai genedlaethol drawsbleidiol? Oni fyddai hynny'n gyflawniad gwych, yn ystod ugeinfed mlynedd datganoli? Ac a wnewch chi wahodd cynrychiolwyr o'r holl bleidiau i drafod yr amcan hwn gyda Llywodraeth Cymru, gan y credaf y gallem gytuno arno?
Rwy'n fwy na pharod i ddweud y buaswn yn awyddus i wneud hynny. Yn wir, rwy'n fwy na pharod i ddweud nawr, Lywydd, ar lawr y Cynulliad, y buaswn yn awyddus iawn i edrych ar lle mae'r consensws ar draws y pleidiau. Rydym wedi cael y drafodaeth hon sawl gwaith yn y Cyfarfod Llawn, ac rydych yn llygad eich lle—mae nifer o bleidiau wedi cyhoeddi dogfennau tai, ac mae llawer rydym yn cytuno arno; mae pethau bychain nad ydym yn cytuno arnynt. Credaf fod David Melding yn llygad ei le yn dweud y byddai'n dda gweld lle mae'r consensws a gweld beth y gellir ei wneud, pan fydd yr holl adroddiadau wedi dod i law a gallwn edrych arnynt yn eu cyfanrwydd.
Llefarydd Plaid Cymru, Dai Lloyd.
Diolch, Lywydd. Weinidog, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn nhrafodaethau awdurdodau lleol. Felly, Weinidog, sut y mae Llywodraeth Cymru yn olrhain gweithrediad egwyddorion y Ddeddf gan gynghorau?
Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda chynghorau i sicrhau eu bod yn ymgorffori'r saith ffordd o weithio yn y Ddeddf, a bod egwyddorion y Ddeddf yn bellgyrhaeddol. Rydym ar hyn o bryd yn gweithio gyda gweithgor mewn llywodraeth leol i sicrhau, ym mhob dim a wnawn gydag awdurdodau lleol, ein bod yn gweithredu'r Ddeddf a'i bod yn ganolog i bopeth a wnawn.
Diolch, Weinidog, ond rydym yn dal i weld cynghorau'n methu ystyried y Ddeddf yn iawn mewn rhai ardaloedd. A gaf fi gyfeirio at enghraifft yn fy rhanbarth i, ym Mhen-y-bont ar Ogwr? Yn ddiweddar, cafwyd ymgynghoriad ar fysiau mewn perthynas â chael gwared ar wasanaethau. Roedd adroddiad i'r cabinet a oedd yn argymell y toriadau wedi methu cynnal asesiad cydraddoldeb nac asesiad o'r effaith ar genedlaethau'r dyfodol. Dywedasant y byddent yn gwneud y ddau beth ar ôl yr ymgynghoriad cyn i'r penderfyniad terfynol gael ei gymeradwyo. Hynny yw, ar ôl i benderfyniad gael ei wneud. Enghraifft arall, felly, yn yr un awdurdod, Pen-y-bont ar Ogwr—gwerthu'r unig gae chwarae a oedd yn gwasanaethu ystâd o dai cyngor er mwyn codi tai. Onid yw'r rhain yn enghreifftiau o awdurdodau lleol yn methu meddwl yn wahanol?
Nid wyf yn ymwybodol o fanylion yr achosion hynny. Roeddwn yn ymwybodol o'r ymgynghoriad ar fysiau; nid wyf yn ymwybodol o fanylion yr achos arall. Os oes gan yr Aelod fwy o fanylion, rwy'n fwy na pharod i edrych arnynt. Yn ddiweddar, cyfarfûm ag arweinydd Pen-y-bont ar Ogwr, ond yn anffodus, roedd hynny ar y diwrnod y cyhoeddwyd y byddai safle Ford yn cau, ac yn amlwg felly, newidiodd ein cyfarfod o'r cyfarfod arferol roeddwn i fod i'w gael gydag ef i fod yn gyfarfod argyfwng am Ben-y-bont ar Ogwr. Ond rwyf i fod i'w gyfarfod eto gyda hyn, felly os caf y manylion gan yr Aelod, rwy'n fwy na pharod i drafod yr achos gydag ef.
Ond y ffaith yw ei bod yn ymddangos naill ai nad oes unrhyw ddannedd i'r Ddeddf ei hun, neu nad oes unrhyw ewyllys yn y Llywodraeth i olrhain ei gweithrediad, oherwydd ar ochr draw'r rhanbarth, yn Abertawe, mae Cyngor Abertawe yn bwriadu gwerthu tir ar y blaendraeth er mwyn gwneud elw cyflym, fel y gwyddoch, rwy'n siŵr, ac nid yw parc eiconig Singleton hyd yn oed yn ddiogel rhag y sgemio a sgilio. Onid yw hyn yn gwbl groes i Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol, ac a oes digon o gapasiti yn y Llywodraeth i olrhain gweithrediad Deddf cenedlaethau'r dyfodol?
Deallaf fod y cynigion yn Abertawe yn destun ymgynghoriad. Mae gennyf innau fag post mawr ar y pwnc, ac rwy'n siŵr fod gennych chithau hefyd, a fy nghyd-Aelod Rebecca Evans yw'r Aelod Cynulliad etholaeth ar gyfer yr ardal honno, a gwn fod ganddi bryderon tebyg. Byddwn yn siarad â'r cyngor am y ffordd y mae'n bwrw ymlaen â rhai o'r pethau hynny, ond maent ar ddechrau proses hir iawn o gynllunio, datblygu economaidd ac yn y blaen, felly credaf ei bod yn gynnar iawn i ddweud nad ydynt yn ystyried hynny. Fy nealltwriaeth i yw mai cynigion rhagarweiniol yw'r rhain. Unwaith eto, os oes gan yr Aelod fwy o fanylion nag y gwn i amdanynt, buaswn yn ddiolchgar i'w cael.