Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 19 Mehefin 2019.
Yn sicr, mae diddordeb mawr gennyf mewn edrych ar dai yn gyffredinol. Nid yr adolygiad tai fforddiadwy yn unig sydd gennym i'w ystyried. Rydych wedi fy nghlywed yn sôn eisoes yn y Cyfarfod Llawn heddiw am yr adolygiad datgarboneiddio. Mae gennym adolygiad polisi rhent, mae gennym adolygiad diwygio cyfraith lesddaliad, mae gennym adolygiad parhaus o angen blaenoriaethol—credaf fod dau arall nad wyf yn eu cofio ar hyn o bryd. Rwyf eisoes wedi trefnu cyfarfodydd â chadeiryddion pob un o'r adolygiadau hynny, a nifer o swyddogion, fel y gallwn edrych ar y cyfan, ar draws yr holl gyngor a gawsom, i allu meddwl am ymateb cydlynol i'r gyfres o adroddiadau. Gall hynny droi'n strategaeth, neu gallai beidio, ond rwy'n bwriadu sicrhau ymateb cydlynol yn gyffredinol. Ac rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod yr adroddiad a lansiwyd ddoe yn rhan o hynny.