Adnewyddu Tai ar gyfer Pobl Hŷn

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 19 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:50, 19 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae pob un ohonom yn cytuno bod yn rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pobl hŷn yn aros yn eu cartrefi am gyn hired â phosibl. Mae addasu cartrefi yn hanfodol er mwyn sicrhau hyn. Beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i leihau'r amseroedd aros anarferol o hir ar gyfer addasiadau o'r fath?