Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 19 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:34, 19 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n fwy na pharod i ddweud y buaswn yn awyddus i wneud hynny. Yn wir, rwy'n fwy na pharod i ddweud nawr, Lywydd, ar lawr y Cynulliad, y buaswn yn awyddus iawn i edrych ar lle mae'r consensws ar draws y pleidiau. Rydym wedi cael y drafodaeth hon sawl gwaith yn y Cyfarfod Llawn, ac rydych yn llygad eich lle—mae nifer o bleidiau wedi cyhoeddi dogfennau tai, ac mae llawer rydym yn cytuno arno; mae pethau bychain nad ydym yn cytuno arnynt. Credaf fod David Melding yn llygad ei le yn dweud y byddai'n dda gweld lle mae'r consensws a gweld beth y gellir ei wneud, pan fydd yr holl adroddiadau wedi dod i law a gallwn edrych arnynt yn eu cyfanrwydd.