Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 19 Mehefin 2019.
Gwnaf. Mae'r angen am dai yn parhau i fod yn fwy na nifer y cartrefi sydd ar gael. Gyda San Steffan bellach wedi cael gwared ar gyfyngiadau benthyca—o'r diwedd, ac ar ôl llawer o lobïo gennym—a'r cyfraddau llog isaf erioed, rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i adeiladu ar raddfa fawr ac yn gyflym am y tro cyntaf mewn cenhedlaeth i sicrhau bod mwy o gartrefi ar gael ledled Cymru.