Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 19 Mehefin 2019.
Diolch yn fawr iawn. Dŷn ni’n gwybod, yn Ynys Môn, o fewn y pump i 10 mlynedd nesaf, fod disgwyl cynnydd o ryw 30 y cant yn nifer y bobl hŷn—pobl dros 60 oed. Dŷn ni'n gwybod yn barod fod yna brinder tai addas ar gyfer pobl hŷn efo anghenion symudedd yn arbennig ac anghenion iechyd. Mae angen codi tai newydd, wrth gwrs, sydd yn addas, ac mae hefyd angen adnewyddu tai o fewn y stoc bresennol. Ac, wrth gwrs, mae angen buddsoddi hefyd mewn addasu tai ar gyfer pobl hŷn. Tra allwch chi, fel Llywodraeth bresennol, ddim rhoi ymrwymiad heibio’r etholiad nesaf wrth gwrs, ydych chi'n cytuno bod rhaid i lefelau grant gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol fel Ynys Môn ar gyfer addasiadau, yn sicr, gynyddu ar yr un raddfa ag y mae ein poblogaeth ni'n heneiddio?