Ystyriaethau Amgylcheddol yn y System Gynllunio

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 19 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 3:06, 19 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Nid yn unig ar gyfer pobl ond ar gyfer anifeiliaid hefyd, os gwelwch yn dda. Ar wahân i weithredu fel ffiniau a chadw anifeiliaid y tu mewn i gaeau, mae'r gwrychoedd yn gynefin pwysig i amrywiaeth eang o anifeiliaid a phlanhigion. Wrth i goetiroedd gael eu dinistrio dros y blynyddoedd, mae llawer o'r bywyd gwyllt ynddynt wedi addasu i fyw o dan berthi ac mewn gwrychoedd. A wnaiff y Gweinidog sicrhau, mewn perthynas â rheolau cynllunio, eu bod yn rhoi sylw dyledus i ddiogelu bywyd gwyllt y trefi a'r ardaloedd gwledig drwy warchod a chreu'r cynefinoedd sy'n cynnal y creaduriaid hyn?