2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 19 Mehefin 2019.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y pwys a roddir ar ystyriaethau amgylcheddol yn y system gynllunio? OAQ54075
Mae datblygu cynaliadwy'n ganolog i'r system gynllunio. Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn datgan yn glir fod materion amgylcheddol yr un mor bwysig ag ystyriaethau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol, ac ynghyd â chyngor technegol a chanllawiau ategol, mae'n rhoi sylw cynhwysfawr i ystyriaethau amgylcheddol yn y system gynllunio.
Diolch i chi am yr ateb, achos dyna yw'r theori, ond rwy'n credu bod y practis damaid bach yn wahanol, oherwydd gan fod y Prif Weinidog wedi dweud yn glir mewn perthynas â'i benderfyniad ynglŷn â'r M4 fod y pwysau mae e wedi'i roi ar ystyriaethau amgylcheddol yn wahanol i'r pwysau roddwyd ar yr ystyriaethau hynny gan yr Arolygiaeth Gynllunio, dwi'n meddwl bod hynny yn amlygu anghysondeb pwysig o fewn y gyfundrefn, ac mae rhywun yn cwestiynu faint o benderfyniadau eraill fyddai wedi bod yn wahanol petai'r arolygydd cynllunio efallai wedi rhoi yr un pwys ar ffactorau amgylcheddol ag yn amlwg y mae'r Prif Weinidog a'r Llywodraeth yn ei wneud erbyn hyn. Felly, sut ydych chi'n bwriadu diwygio neu gywiro canfyddiad anghywir, os caf i ddweud, yr Arolygiaeth Gynllunio ar y weighting sydd angen ei roi ar faterion amgylcheddol, yn enwedig, wrth gwrs, yn sgil datgan argyfwng hinsawdd?
Rwy'n derbyn y pwynt y mae'r Aelod yn ceisio'i wneud, ond ni chredaf ei fod yn gwbl deg. Yn amlwg, pan fydd unrhyw unigolyn yn ffurfio barn ar set o ffeithiau, ceir elfen o oddrychedd yn hynny o beth, ni waeth pa mor wrthrychol yw'r rheolau. Ac mae un unigolyn yn rhoi pwys ychydig yn wahanol i rywbeth arall am amryw o resymau. Ond yr hyn y ceisiwn ei wneud yng Nghymru—ac rydym ar fin ymgynghori ar y fframwaith datblygu cenedlaethol, ac fel y dywedais ddoe yn fy nghyflwyniad am weithio rhanbarthol i awdurdodau lleol, rydym yn rhoi haen gynllunio strategol i mewn hefyd—yma yng Nghymru, rydym yn awyddus i gael system wedi'i harwain gan gynlluniau lle mae gan bobl leol lais cryf yn yr hyn y mae eu cynllun lleol yn ei ddweud, ein bod yn eu cynorthwyo i gael y llais cryf hwn yn yr hyn y mae eu cynllun lleol yn ei ddweud—dylai pob ardal edrych fel y mae ei phobl leol am iddi edrych; dyna bwynt y system gynllunio—ond bod yna set o reolau rydym yn cytuno arnynt yma yn y Cynulliad ac yn ein gwahanol haenau o lywodraeth a ddefnyddir i sicrhau bod gan bobl yr ystyriaethau cywir ar waith. Felly, mae hon yn set o reolau sy'n dweud bod ystyriaethau amgylcheddol yr un mor bwysig â'r ystyriaethau economaidd, cymdeithasol ac yn y blaen. Dyna'r pwysau y disgwyliwn i'r arolygiaeth ei roi ar hyn, ac yn ddiweddar, siaradais â'r sefydliad cynllunio trefol brenhinol a dywedais yn glir iawn beth oedd ein disgwyliadau ar gyfer lleoedd y dyfodol, a dywedais yn glir iawn mai'r hyn rydym am ei weld yw cymunedau lleol, cynaliadwy gydag ymdeimlad o le, sy'n gwerthfawrogi eu hamgylchedd lleol a'u diwylliant lleol a'u trefniadau economaidd lleol, sydd â swyddi cynaliadwy yn agosach at eu cartrefi, mewn system sy'n ein galluogi i wneud y defnydd gorau o adnoddau naturiol Cymru—felly, yr hyn a ddywedasoch, yn bendant iawn. Ond yr hyn rydym yn ei wneud yw rhoi'r system a arweinir gan gynlluniau ar waith er mwyn caniatáu i hynny ddigwydd.
Nawr, yn ddelfrydol, byddech wedi rhoi'r fframwaith datblygu cenedlaethol ar waith yn gyntaf, ond dyma'r sefyllfa rydym ynddi. Felly, mae gennym gyfres o gynlluniau datblygu lleol sy'n cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Byddwn yn rhoi'r fframwaith datblygu cenedlaethol ar waith mewn ymgynghoriad â phobl Cymru dros yr haf, ac yna byddwn yn rhoi'r darnau strategol ar waith, ac ym mhob un o'r rheini, bydd sgwrs glir gyda phobl Cymru i sicrhau ein bod yn cael y cydbwysedd hwnnw'n iawn ar eu cyfer hwy, gan fod pobl mewn gwahanol leoedd yn rhoi pwyslais gwahanol ar wahanol fathau o bethau, yn dibynnu ar angen lleol.
Felly, rwy'n credu fy mod yn cytuno â chi, ond mae'r elfen o oddrychedd yno o reidrwydd. Felly, yn y pen draw, yr un sy'n gwneud y penderfyniad sy'n rhoi hynny ar waith, ond maent yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n cydymffurfio â'r system sydd ar waith ac na ellir ei herio yn yr ystyr eu bod yn dangos eu bod wedi cael y cydbwysedd hwnnw'n gywir. Ond bydd amrywiadau cynnil o fewn hynny bob amser. Felly, bydd yr un sy'n gwneud y penderfyniad bob amser yn ystyried yr amrywiadau cynnil hynny. Ac mae hynny'n wir ar gyfer pwyllgorau cynllunio ac arolygwyr cynllunio. Hoffem weld cymaint o benderfyniadau â phosibl yn cael eu gwneud yn y pwyllgorau cynllunio eu hunain, yn y cynghorau a reolir yn ddemocrataidd sy'n cael eu hethol i wneud y pethau hyn, ac os gallwn gael y system honno'n iawn, byddwn yn gweld lleihad yn nifer yr apeliadau i'r Arolygiaeth Gynllunio a—Lywydd, os maddeuwch i mi am siarad yn bur faith ar hyn, ond credaf ei fod yn bwynt pwysig—rydym hefyd, wrth gwrs, yn ymgynghori ar wahanu arolygiaeth gynllunio Cymru yn gorff ar wahân am yr union reswm hwnnw, gan ein bod yn awyddus i gael system gynllunio yng Nghymru sy'n addas ar gyfer dyfodol Cymru.
Rwy'n ei chael yn anodd meddwl am unrhyw beth y gallai'r Gweinidog ei ychwanegu at hynny mewn cwestiwn atodol. [Chwerthin.] Os caf fi ofyn—. Roeddech yn sôn yn eich araith yn awr, Weinidog, fod angen adeiladu tai ar gyfer y dyfodol. Rwyf wedi bod yn gohebu ag un o fy etholwyr—. Nid wyf eisiau trafod y ceisiadau cynllunio unigol, ond mae'r awdurdod lleol wedi gwrthod tŷ eco modern—neu mae yn y broses o wneud hynny—ar y sail fod y tir y mae'n cael ei adeiladu arno hefyd yn cynnwys adeilad adfeiliedig y dylid ei adnewyddu yn gyntaf, yn ôl yr awdurdod. Mae fy etholwyr wedi codi pwynt dilys, sef, yn awr fod gennym argyfwng newid hinsawdd a'n bod yn siarad am bryderon amgylcheddol—a oes angen ailwampio canllawiau cynllunio i awdurdodau lleol fel bod yr argyfwng hinsawdd a'r angen i fynd i'r afael â materion amgylcheddol yn cael eu cynnwys ar lefel lawer uwch, ac felly, os oes rhywun eisiau adeiladu tŷ eco-gyfeillgar, oni ddylai hynny gael ei wthio fymryn yn uwch ar yr agenda fel bod gennym gartrefi sy'n helpu mwy gyda'r agenda ddatgarboneiddio?
Wel, nid wyf am wneud sylw ar y cais cynllunio unigol, rhywbeth nad wyf yn gwybod dim amdano, ac felly rwyf am wneud fy sylwadau'n llawer mwy cyffredinol. Ond rydym wedi newid—. A dweud y gwir, un o'r pethau olaf a wnaeth fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths fel Gweinidog cynllunio oedd cyhoeddi'r ddogfen 'Polisi Cynllunio Cymru' newydd, sy'n newid y system gynllunio yng Nghymru'n sylfaenol, ac sydd, rwy'n credu—. Mae pobl yn sôn am adolygiad; rydym newydd newid y system yn sylfaenol, ac os nad ydych wedi'i ddarllen, rwy'n ei argymell i chi. Nid dogfen gynllunio sych yw hi. Mae'n ddogfen fyw iawn, sy'n symud y tirlun rydym yn sôn amdano yng Nghymru yn sylfaenol, ac mae'n gwneud hynny yn y ffordd rydych newydd ei hamlinellu. Felly, mae'n sôn am gynaliadwyedd creu lleoedd, mae'n sôn am ddefnyddio adnoddau lleol yn y ffordd orau, mae'n sôn am ddatblygu prosesau cynllunio priodol gyda phobl leol yn greiddiol iddynt.
Ac fel rwyf newydd ddweud, rydym hefyd yn rhoi gweddill y fframwaith hwnnw ar waith yn awr. Cyn bo hir, byddwn yn ymgynghori ar y fframwaith datblygu cenedlaethol dros yr haf. Anogaf holl Aelodau'r Cynulliad i ymgysylltu â hwnnw a dod yn ôl atom gyda'u sylwadau eu hunain a sylwadau eu hetholwyr ar y cynllun hwnnw. Ac fel y dywedais ddoe, rwyf wedi dechrau amlinellu proses lle rydym eisiau i awdurdodau lleol roi haen strategol cynlluniau ar waith. Mae'n rhaid i bobl fod wrth wraidd y broses honno, oherwydd eu lle hwy y maent yn ei greu ac rydym eisiau sicrhau bod dinasyddion Cymru'n teimlo bod eu system gynllunio'n eu cynrychioli'n briodol. Yna, gwneir y penderfyniadau unigol yng ngoleuni pwysau'r dogfennau a roddwyd ar waith yn eu hardal leol. Felly, os nad ydych yn ymgysylltu â phroses eich cynllun datblygu lleol, ni fydd gennych lais yn y rheolau hynny pan fyddant yn dod at bob cais cynllunio unigol. Felly, mae angen cryfhau'r llais hwnnw oherwydd, yn aml, credaf nad yw cymuned leol yn sylweddoli bod problem hyd nes y cyflwynir cais cynllunio unigol ac nid ydynt yn ymgysylltu â chynllun y broses honno yn y ffordd y byddem yn ei hoffi. Felly, rwy'n falch iawn o glywed safbwyntiau ynglŷn â sut y gallem sicrhau ymgysylltiad gwell fel bod pobl yn berchen ar eu cynllun mewn ffordd lawer mwy realistig.
Nid yn unig ar gyfer pobl ond ar gyfer anifeiliaid hefyd, os gwelwch yn dda. Ar wahân i weithredu fel ffiniau a chadw anifeiliaid y tu mewn i gaeau, mae'r gwrychoedd yn gynefin pwysig i amrywiaeth eang o anifeiliaid a phlanhigion. Wrth i goetiroedd gael eu dinistrio dros y blynyddoedd, mae llawer o'r bywyd gwyllt ynddynt wedi addasu i fyw o dan berthi ac mewn gwrychoedd. A wnaiff y Gweinidog sicrhau, mewn perthynas â rheolau cynllunio, eu bod yn rhoi sylw dyledus i ddiogelu bywyd gwyllt y trefi a'r ardaloedd gwledig drwy warchod a chreu'r cynefinoedd sy'n cynnal y creaduriaid hyn?
Ie. Credaf fod hwnnw'n bwynt dilys iawn, ac wrth i bob cynllun datblygu lleol gael ei gyflwyno, dyna'r mathau o bethau y dylai'r cynllunwyr a'r cynghorwyr ym mhob ardal leol fod yn eu hystyried er mwyn diogelu eu tirwedd leol. Yn ddiweddar, bu fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr amgylchedd, yn ymgynghori'n eang ar ddiogelu cefn gwlad—pethau fel gwrychoedd—a byddwn yn sicr yn ystyried hynny.