Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 19 Mehefin 2019.
Cyfarfûm â chadeirydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ddoe i gael cadarnhad fod y cyngor yn ymgysylltu â'r brifysgol ac yn monitro eu sefyllfa ariannol yn unol â chyfrifoldebau rheoleiddio ac ariannol y cyngor. Gwnaeth y brifysgol, fel sefydliad annibynnol, ymreolaethol, ddatganiad cyhoeddus am yr oedi cyn cyhoeddi gan gadarnhau nad yw'n effeithio ar eu perfformiad na'u lles ariannol.