Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 19 Mehefin 2019.
Wel, Lywydd, mae hwn yn amlwg yn newyddion siomedig iawn i'r cwmni a'i weithlu, ac rydym yn cydymdeimlo â'r teuluoedd a'r gweithwyr yn ystod y cyfnod anodd hwn. Siaradodd swyddogion Llywodraeth Cymru â'r busnes ddoe ac maent yn barod i gefnogi'r holl staff yr effeithir arnynt drwy ein rhaglenni Cymru'n Gweithio, y Ganolfan Byd Gwaith, a'r ganolfan cyngor ar bopeth.