Allied Bakeries

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 19 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:27, 19 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n bryderus iawn hefyd am y gweithwyr yn Allied Bakeries, lle bu traddodiad hir iawn o bobi ar y safle hwnnw, fel y clywsom, ac yn agos ato yn y rhan honno o Gaerdydd, ac rwy'n falch o glywed y Dirprwy Weinidog yn siarad am yr angen i ganolbwyntio ar y sgiliau sydd gan y gweithwyr yno. Er y byddai'n gadarnhaol pe bai swyddi'n cael eu cadw yno mewn canolfan ddosbarthu, nid yw hynny yr un fath â'r sgiliau sydd wedi'u datblygu dros flynyddoedd lawer ym maes pobi. Mae'r rhain yn weithwyr medrus iawn.

Dyma'r newyddion drwg diweddaraf ar ôl llawer o achosion o golli swyddi a bygythiadau i swyddi yn ne-ddwyrain Cymru. Hyd yn oed yn y brifddinas, mae'n nifer sylweddol o swyddi. Mae'n rhaid ystyried y pwysau y mae'n ei roi ar allu'r Llywodraeth i ymdrin â'r cyhoeddiadau hyn gan amryw gwmnïau o safbwynt rhoi cynlluniau amrywiol ar waith, gweithio gyda'r Ganolfan Byd Gwaith, gweithio ar weithredu cynlluniau ReAct, ac yn y blaen. A wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd y rhoddir ystyriaeth i ddarparu adnoddau ychwanegol a chynyddu'r capasiti yn Llywodraeth Cymru i ymdrin ag ergyd ar ôl ergyd, a sicrhau bod gweithwyr, lle bynnag yr effeithir arnynt yn economi Cymru, yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i chwilio am gyflogaeth newydd?