Part of the debate – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 19 Mehefin 2019.
Diolch. Gwnaethom ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ar 20 Mai 2019 ac adroddasom ar y pwyntiau technegol a theilyngdod i'r Cynulliad. Rydym yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y pwynt adrodd technegol sy'n ymwneud â drafftio'r rheoliadau, a'i bod yn cynnig unioni'r mater drwy slip cywiro.
O ran y pwyntiau teilyngdod, nodasom fod y rheoliadau hyn yn gosod chwe dyletswydd gytundebol sy'n ymwneud â'r Gymraeg ar gontractwyr sy'n darparu gwasanaethau gofal sylfaenol i'r GIG. Roedd hyn yn cyferbynnu â'r 121 o safonau iaith Gymraeg sy'n berthnasol i ddarparwyr gwasanaethau iechyd eraill. Roedd ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad yn nodi mai'r dyletswyddau a osodir gan y rheoliadau hyn yw'r dyletswyddau cyntaf sy'n ymwneud â'r Gymraeg i fod yn berthnasol i ddarparwyr gofal sylfaenol annibynnol, a'u bod yn wahanol i'r safonau iaith Gymraeg sy'n berthnasol i fyrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG.
Nodasom hefyd fod y rheoliadau y mewnosodir y dyletswyddau ychwanegol hyn ynddynt yn ei gwneud yn glir eu bod yn rhan o ddyletswyddau cytundebol contractwyr o 30 Mai 2019 ymlaen. Fodd bynnag, nid oes unrhyw beth yn y memorandwm esboniadol nac yn dod gyda'r memorandwm esboniadol i esbonio bod y gwelliannau'n berthnasol i bob contract o'r dyddiad hwnnw ymlaen ac nad ydynt wedi'u cyfyngu i gontractau newydd yr ymrwymwyd iddynt ar ôl y dyddiad hwnnw. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i'r pwynt hwn drwy ddweud ei bod wedi ymgynghori a gohebu â chyrff cynrychiadol perthnasol y darparwyr gofal sylfaenol annibynnol, a'i bod yn fodlon fod y cyrff perthnasol yn ymwybodol nad yw'r dyletswyddau'n gyfyngedig i drefniadau newydd a wnaed ar ôl y dyddiad y daeth y rheoliadau i rym.
Yn ogystal â'n hadroddiad arferol, ysgrifenasom at y Gweinidog hefyd i gefnogi'r pryderon a godwyd gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, pwyllgor rwyf hefyd yn aelod ohono. A nodaf fod y Gweinidog wedi dweud, yn ei ymateb i ni yr wythnos diwethaf, ei fod wedi gofyn i'w swyddogion sicrhau eu bod yn ymgysylltu â phwyllgorau yn llawer cynharach yn y broses ar gyfer rheoliadau yn y dyfodol. A hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i bwysleisio unwaith eto, i bob rhan o Lywodraeth Cymru, pa mor bwysig yw ymgysylltu â'r pwyllgorau pwnc perthnasol ar reoliadau arwyddocaol, yn enwedig pan fo pwyllgor wedi gofyn am yr ymgysylltiad hwnnw.
Ac mae gennyf bwyntiau pellach. Rwy'n cydymdeimlo'n fawr â'r pwyntiau a wnaeth Dai Lloyd ac mewn perthynas â'r diffygion gweithdrefnol sydd wedi digwydd, yn enwedig o ran y gallu i graffu'n briodol ar reoliadau a gyflwynir gerbron y Cynulliad hwn. Mae honno'n rhan sylfaenol o'r broses seneddol, ac mae'r pryder a godwyd yn un a rennir gan bawb rwy'n credu, yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a hefyd yn y pwyllgor diwylliant a'r Gymraeg rwy'n aelod ohono. Rwy'n credu bod rhai ohonom wedi methu cefnogi'r syniad o ddirymu, yn bennaf oherwydd y difrod y teimlem y gallai ei wneud, neu oblygiadau peidio â bwrw ymlaen â rheoliadau sy'n ceisio hybu buddiannau'r Gymraeg. Ond ni ddylai hynny olygu nad oes rhybudd i bawb ohonom ar draws y Llywodraeth, os na ddilynir gweithdrefnau'n briodol, os nad oes cyfle priodol i graffu, credaf fod dirymu'n fater y mae ein strwythur pwyllgor yn rhoi sylw difrifol iddo. Ac rwy'n credu y gallai fod yn rhywbeth y byddwn yn ei ystyried yn y dyfodol. Felly, buaswn yn sicr yn ceisio sicrwydd heddiw fod y gwersi hynny wedi'u dysgu, fod y pwysigrwydd cyfansoddiadol hwnnw'n cael ei gydnabod, ac na fydd hyn yn digwydd eto yn ystod prosesau seneddol yn y Cynulliad hwn.