7. Dadl ar Ddeiseb P-05-869: Datgan Argyfwng Hinsawdd a gosod targedau di-garbon ym mhob polisi

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 19 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 5:20, 19 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Nid wyf wedi darllen yr erthygl, ond os gofynnwch i'r bobl y credaf y byddent wedi gwneud sylwadau ar hynny, y pwynt yw fod yr agenda ddad-ddofi yn cael ei gyrru gan rymoedd allanol ac nad yw'n broses sydd wedi'i gwreiddio yn y gymuned leol ac sy'n tyfu o'r gwaelod i fyny. Yn sicr, chi fyddai'r person olaf a fyddai am weld lluosfiliwnyddion yn dweud wrth bobl leol yng ngorllewin Cymru beth i'w wneud. Does bosibl nad yw'n ymwneud â bod y bobl yn perchnogi'r broses honno ac yn gwneud iddi ddigwydd eu hunain. Fel arall, nid yw'n gynaliadwy, a gallem ei alw'n bob math o bethau, ond ni fyddai'n ddemocratiaeth. Ond rwy'n crwydro. [Torri ar draws.] Ydw, ac rwy'n credu i chi gyflawni eich pwrpas drwy ymyrryd. Iawn. Ble roeddwn i?