Part of the debate – Senedd Cymru am 5:21 pm ar 19 Mehefin 2019.
Y pwynt yr oeddwn i yn ei wneud, wrth gwrs, yw dŷn ni ddim yn sôn am risg hinsawdd; dŷn ni ddim yn sôn am broblem hinsawdd fan hyn. Rŷm ni'n sôn am argyfwng hinsawdd. Mae hynny'n golygu ymateb, ydy, ond ymateb sydyn a gweithredu ar frys. Mae panel rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd wedi dweud mai 12 mlynedd sydd gennym ni i gyrraedd y nod. Felly, mae'n rhaid inni weithredu ar fyrder.
Nawr, mae'r Llywodraeth, cyn datgan argyfwng, wedi cyhoeddi'r papur 'Cymru Carbon Isel'. Mi oedd hwnnw'n gasgliad o nifer fawr o ddatganiadau a mentrau a oedd wedi cael eu cyhoeddi'n flaenorol. Rwy'n cydnabod bod y Gweinidog wedi gofyn i'w swyddogion i edrych eto ar hynny. Dwi ddim yn siŵr iawn beth yw'r amserlen ar gyfer gwneud hynny. Mi fydd angen diwygio. Mi fydd angen cryfhau. Dwi'n gobeithio'n fawr nad dim ond tincro gawn ni. Dwi wedi cyfeirio'n gyson at waith y Sefydliad Materion Cymreig ar ailegnïo Cymru. Mae hwnnw, i mi, yn gosod llwybr i gyrraedd y nod o Gymru i fod yn hunangynhaliol mewn ynni adnewyddadwy erbyn 2035. Dwi'n meddwl bod hwnnw'n darged y dylai'r Llywodraeth ei ystyried fel un i gyrraedd tuag ato.
Yr hyn rŷm ni'n ei gael yn y ddogfen honno gan y Llywodraeth—'Cymru Carbon Isel'—ar hyn o bryd yw ymrwymiadau i ymgynghori, i ystyried, i ddechrau archwilio. Mae'r dyddiau hynny wedi pasio. Mae'r amser wedi dod i weithredu. Dwi hefyd eisiau dweud fy mod i'n falch iawn bod y Cynulliad yma yn mynd i ymgynnull cynulliad y bobl—citizens' assembly. Mae hwnnw'n gam positif. Byddwn yn licio gweld hynny'n dod yn nodwedd fwy parhaol o'n democratiaeth ni. Ond, i hwnnw fod yn llwyddiant, mae'n rhaid i ni fel gwleidyddion, y Cynulliad hwn ac, yn sicr, y Llywodraeth, wrando, cymryd ystyriaeth lawn ac i weithredu ar sail yr hyn sy'n cael ei wyntyllu yn y cynulliadau hynny. Fel arall, y perygl yw y byddan nhw'n ddim byd ond siop siarad.