Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 19 Mehefin 2019.
Rwy'n croesawu'r ddeiseb hon yn fawr a'r cyfle i siarad amdani. Pan fydd haneswyr yn edrych yn ôl ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru, byddant yn synnu faint o amser a dreuliwyd ar sut rydym yn masnachu â gwledydd eraill a chyn lleied o amser rydym wedi'i roi i'r bygythiad i'n byd a phob rhywogaeth, gan gynnwys ni ein hunain. Mae y tu hwnt i ddadl ddifrifol yn awr ein bod yn gweld newid yn yr hinsawdd, ac oni weithredir yn awr, byddwn yn ei weld yn gwaethygu fwyfwy.
Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi argyfwng newid hinsawdd. Mae'r datganiad hwn yn anfon neges glir fod Llywodraeth Cymru'n deall bod newid hinsawdd yn bygwth ein hiechyd, ein heconomi, ein seilwaith, ein hamgylchedd naturiol, a ni ein hunain yn y bôn. Nid yw gwrthsefyll newid hinsawdd yn fater y gellir ei adael i unigolion neu i'r farchnad rydd. Mae'n galw am weithredu ar y cyd ac am i'r llywodraeth gael rhan ganolog yn sicrhau bod gweithredu ar y cyd yn bosibl.
Rwy'n cefnogi Llywodraeth Cymru yn ei hymrwymiad i sicrhau sector cyhoeddus carbon-niwtral erbyn 2030 ac i gydlynu camau gweithredu i helpu rhannau eraill o'r economi i symud yn bendant oddi wrth danwyddau ffosil, gan gynnwys y byd academaidd, diwydiant a'r trydydd sector. Os edrychwch ar y wyddoniaeth, yn gyntaf, mae carbon yn ocsideiddio'n garbon deuocsid. Mae carbon deuocsid yn nwy tŷ gwydr. Sut y gwyddom hynny? Cymharwch y blaned Gwener â'r blaned Mercher. Mae Mercher tua 58 miliwn cilomedr o'r haul, mae Gwener tua dwywaith mor bell, 108 miliwn cilomedr. Felly, byddech yn disgwyl i wyneb y blaned Mercher fod yn boethach na wyneb y blaned Gwener. Y gwrthwyneb sy'n wir. Pam? Mae'n ymwneud â mwy na'r atmosffer. Mae atmosffer Mercher yn cynnwys cyfeintiau bach o hydrogen, heliwm ac ocsigen. Mae atmosffer Gwener yn haenau o nwyon sy'n amgylchynu Gwener. Mae'n cynnwys carbon deuocsid yn bennaf. Mae hynny'n golygu ei fod yn dal y tymheredd. Rydym yn gwybod hynny. Nid yw'n fater o ddadl neu, 'Nid wyf yn credu mewn newid hinsawdd', neu 'Nid wyf yn credu mewn carbon deuocsid a nwy tŷ gwydr' —mae'r ffeithiau yno. Mae hyn yn brawf pendant fod carbon deuocsid yn dal gwres ac yn gwneud yr arwyneb yn boethach.
'Ond mae gennym garbon deuocsid yn ein hatmosffer yn awr', medd pobl. Oes, a phe na bai gennym garbon deuocsid, ni fyddai gennym yr hinsawdd dymherus sy'n bodoli ar y rhan fwyaf o'r ddaear. Mae'n dal gwres. Yr hyn a wyddom yw, os cawn fwy o garbon deuocsid, bydd y blaned yn mynd yn boethach ac yn boethach.
Wrth i newid hinsawdd ddigwydd, bydd ein tywydd o ddydd i ddydd a'n tymereddau arferol yn newid, a bydd hyn yn effeithio ar gartrefi planhigion ac anifeiliaid ledled y byd. Mae eirth gwyn a morloi yn enghraifft dda o anifeiliaid yr effeithir arnynt gan newid hinsawdd. Bydd yn rhaid iddynt ddod o hyd i dir newydd ar gyfer hela a byw os bydd y rhew yn yr Arctig yn toddi, ond y gwir amdani—yn fwy realistig—yw y bydd y rhywogaethau hyn bron yn sicr o ddiflannu.
Bydd unrhyw un dros 50 wedi sylwi ar sut y mae ein tywydd wedi newid yng Nghymru. Mae pethau syml fel glaw mân parhaus—yr arferem ei gael am ddyddiau bwy'i giydd—wedi troi bellach yn gyfnodau byr o law trwm iawn, sydd wedi arwain at lifogydd mewn sawl ardal.
O edrych ar weddill y byd, gan ddechrau gydag Unol Daleithiau America—sef y lle gorau i ddechrau, oherwydd mae'n gartref i lawer o'r rhai sy'n gwadu newid hinsawdd—mae gwres a sychder yn Texas a'r gorllewin canol wedi arwain at dymereddau cyfartalog misol uwch nag a welwyd o'r blaen. Ceir digwyddiadau o wres eithafol digynsail sy'n para am sawl mis ar lefel waeth nag ers dechrau cadw cofnodion ag offer dibynadwy yn 1895. Mae tymereddau uwch yn arwain at gynyddu cyfraddau anweddu. Yn ddiweddar fe brofodd Texas ac Oklahoma fwy na 100 diwrnod dros 100 gradd Fahrenheit. Mae'r ddwy dalaith wedi gweld hafau poethach nag a welwyd ers dechrau cadw cofnodion yn 1895. Mae glawiadau trwm wedi cynyddu'n genedlaethol, yn enwedig dros y tri i bump degawd diwethaf. Mae'r digwyddiadau glaw trymaf wedi mynd yn drymach ac yn fwy mynych, ac mae faint o law sy'n disgyn ar y dyddiau pan fo'n glawio drymaf wedi cynyddu hefyd. Ers 1991, mae faint o law sy'n disgyn mewn digwyddiadau glaw trwm iawn wedi bod yn sylweddol uwch na'r cyfartaledd. Mae America yn dioddef; mae gweddill y byd yn mynd i ddilyn.
Gan droi at Affrica. Mae ymchwil newydd yn dweud y bydd y cyfandir yn profi llawer o achosion eithafol o law trwm dros yr 80 mlynedd nesaf gan arwain at lifogydd, stormydd a methiant ffermio, gan newid o law trwm iawn bob 30 i 40 mlynedd i law trwm iawn bob tair neu bedair blynedd. Bydd hyn yn digwydd am yn ail â sychder llethol a fydd hefyd yn effeithio ar gynhyrchiant bwyd.
Bydd byd sydd bedair gradd yn gynhesach yn arwain at foddi dinasoedd, boddi ynysoedd, moroedd llonydd, tywydd annioddefol o boeth, ardaloedd enfawr o dir na ellir byw arno a thros 11 biliwn o bobl yn ceisio byw ynddo. Byd sydd bedair gradd yn gynhesach yw'r hyn a geir mewn ffilmiau arswyd—math o apocalyps sydd ar ei ffordd yn fuan. Yn anffodus, dyma'r cyfeiriad rydym yn anelu iddo os methwn leihau'r carbon deuocsid sy'n cynyddu yn yr atmosffer i atal cynhesu byd-eang. Nid yw geiriau da a gweithredu cyfyngedig yn opsiwn. Dim ond un byd sydd gennym. Am y 200 mlynedd diwethaf rydym wedi ei gam-drin. Oni weithredwn yn awr, rydym mewn perygl o ddinistrio'r byd a'r rhan fwyaf o'r pethau sy'n byw ynddo, ac mae hynny'n ein cynnwys ni.