Part of the debate – Senedd Cymru am 6:04 pm ar 19 Mehefin 2019.
Diolch i'r Aelod am ildio. Gwrandewais ar yr hyn roedd yn ei ddweud, ac yn amlwg dangoswyd yn Nhŷ'r Arglwyddi fod yr achos cyfreithiol—nid oes rhwymedigaeth gyfreithiol i dalu’r £39 biliwn. Mae yna gwestiwn ynghylch gofyniad moesol. Ond rydych chi newydd grybwyll bod yna rai rhwymedigaethau. A ydych wedi cael ffigur ar gyfer y rhwymedigaethau hynny, o ran y swm y mae'n ofynnol i ni ei dalu oherwydd y rhaglenni rydym wedi ymrwymo iddynt? Daw hynny allan o'r £39 biliwn rydych chi'n sôn amdano.