Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 25 Mehefin 2019.
Diolch i Llyr Gruffydd. Am bob un ymholiad oddi wrth y cyhoedd sy'n mynegi pryderon neu'n cwyno, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn derbyn bron i dair neges yn mynegi diolch neu werthfawrogiad. Rwy'n disgwyl i bob bwrdd iechyd fod yn agored ac yn ymatebol i bob math o ymholiad, beth bynnag ei natur.