Tyddynwyr

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 25 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:02, 25 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i David Melding am hynna ac rwy'n ei longyfarch ar noddi'r digwyddiad Tyddynwyr Morgannwg yr wythnos diwethaf. Roeddwn i, fy hun, yn bresennol mewn rhai digwyddiadau a gynhaliwyd ganddyn nhw yn y fan yma yn y gorffennol, ac maen nhw'n gyfle, bob amser, i arddangos ffermio Cymru, bwyd o Gymru, a'r ymrwymiad sydd gan y sector i'r safonau uchaf. Roedd yn braf gweld y daethpwyd ag anifeiliaid yma, hefyd, o Forgannwg—rwy'n siŵr bod anifeiliaid o rannau eraill o Gymru ar gael hefyd, Llywydd, i ymweld â ni yn y fan yma. Ond rydym ni eisiau parhau fel Llywodraeth i gefnogi tyddynwyr Cymru.

Mae gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ŵyl tyddynnod a chefn gwlad, y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i'w noddi, ac roedd y prif filfeddyg ac eraill yn bresennol yno. Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfres o ddigwyddiadau o'r enw 'Byw oddi ar 10 erw', sydd wedi eu hanelu'n benodol iawn at y sector tyddynnod. Er bod yn rhaid i dyddynwyr fod â 5 hectar fel isafswm maint i fod yn gymwys ar gyfer cynllun y taliad sylfaenol, nid oes cyfyngiad maint ar y grant busnes fferm yma yng Nghymru, ac rydym ni'n annog tyddynwyr sydd â diddordeb mewn arallgyfeirio, wrth ddarparu nwyddau cyhoeddus o'r math a ddisgrifiodd David Melding, i wneud cais am y grant hwnnw fel y gallwn barhau i'w helpu i arloesi ac arallgyfeirio.