Tyddynwyr

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 25 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 2:03, 25 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'r rhan fwyaf o dyddynnod yn fusnesau sy'n cael eu rhedeg gan deuluoedd, sydd angen ategu eu hincwm gyda ffynonellau eraill fel twristiaeth. Maen nhw'n gwneud cyfraniad mawr at ein heconomïau gwledig. Maen nhw hefyd yn tueddu i werthu'n lleol, gan leihau milltiroedd bwyd a bod yn llesol i'n hamgylchedd. Yn fy marn i, mae cyflenwi a bwyta bwyd cartref yn nes at adref yn gwneud synnwyr perffaith. Prif Weinidog, beth all eich Llywodraeth chi ei wneud i annog mwy o gynhyrchu bwyd yn lleol?