1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 25 Mehefin 2019.
4. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiogelu adeiladau rhestredig yng Nghymru? OAQ54139
Mae adeiladau rhestredig yn rhan bwysig o'n treftadaeth ac yn cael gwarchodaeth arbennig mewn deddfwriaeth, a atgyfnerthwyd yn ddiweddar gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), a basiwyd yma yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn 2016. Yn ystod yr hydref hwn, bydd Cadw yn lansio rhaglen hyfforddi ar gyfer timau cadwraeth awdurdodau lleol, gan ganolbwyntio ar swyddogaeth camau gorfodi i ddiogelu adeiladau rhestredig.
Ie, diolch am hynna, ac edrychaf ymlaen at weld adroddiadau ar gynnydd gan Cadw. Cawsom bwyslais ychydig yn wahanol gennych chi pan oeddech chi'n ateb cwestiwn gan Nick Ramsay yn ddiweddar am fater cynllunio penodol yn ei ardal ef. Dywedasoch bryd hynny eich bod yn ystyried adolygu'r rheolau yn ymwneud ag apeliadau cynllunio. Roedd y cwestiwn yn ymwneud ag adeiladau rhestredig, felly yng ngoleuni'r ymateb hwnnw, a gaf i ofyn i chi am fwy o fanylion am hynny ac am unrhyw amserlen ar gyfer cynnydd yn hynny o beth?
Llywydd, gadewch i mi fod yn eglur ynghylch natur y drafodaeth a gefais gyda Nick Ramsay yr wythnos diwethaf. Roedd Nick yn cyfeirio at Troy House yn ei etholaeth ef, adeilad rhestredig lle mae ymdrechion diweddar i ddod o hyd i ddyfodol iddo wedi bod yn anodd. Gofynnodd Nick Ramsay gwestiwn i mi am y ffordd y mae rheolau cynllunio naill ai'n cefnogi neu'n rhwystro defnydd hyfyw a chynaliadwy o'r adeiladau hynny. Ymgymerais i wneud yn siŵr ein bod ni'n edrych ar y llyfr rheolau cynllunio fel bod y system gynllunio, pan fydd gan adeilad rhestredig ddefnydd hyfyw a chynaliadwy, yn cymryd ei statws fel adeilad rhestredig i ystyriaeth. Oherwydd yn y pen draw, Llywydd, nid yw rhestru ar ei ben ei hun yn ddigon.
Mae gennym ni dros 30,000 o adeiladau sydd wedi eu rhestru yma yng Nghymru, ac nid yw rhestru ar ei ben ei hun yn sicrhau dyfodol i'r adeilad hwnnw. Mae'n rhaid i'r adeilad gael dyfodol y tu hwnt i'w restru ac mae hynny'n golygu dod o hyd i ddefnydd iddo yn y dyfodol a fydd yn rhoi'r defnydd ymarferol hwnnw iddo a'r dyfodol hirdymor hwnnw iddo. Dyna yr ydym ni eisiau ei ddarparu yma yng Nghymru. Rydym ni'n darparu cymorth ariannol i asedau cymunedol hanesyddol, neuaddau cymunedol, addoldai hanesyddol ac yn y blaen. Mae mwyafrif yr adeiladau rhestredig mewn dwylo preifat, ac mae'n rhaid i berchenogion preifat chwarae eu rhan hefyd i ddod o hyd i'r defnyddiau hynny a fydd yn rhoi dyfodol hirdymor i'r adeiladau hynny.
Roeddwn i'n falch o'ch clywed chi'n cyfeirio at addoldai nawr, Prif Weinidog. Un o'r cymunedau a fu'n fywiog iawn yng Nghymru ar un adeg ac, yn wir, a oedd â chymunedau ffydd ar draws y wlad, oedd y gymuned Iddewig. Yn anffodus, mae nifer y bobl yn y gymuned Iddewig ledled Cymru wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf, ac maen nhw fwy neu lai wedi eu cyfyngu i Gaerdydd, Abertawe a Llandudno yn y gogledd erbyn hyn. Yn aml iawn, serch hynny, mae'r addoldai hynny wedi eu colli i genedlaethau'r dyfodol. A gwn fod Dawn Bowden, wrth gwrs, wedi bod yn ymgyrchu'n frwd, a hynny'n gwbl briodol, dros synagog ffantastig yn ei hetholaeth ei hun. Ond, yn anffodus, rwyf i wedi colli mannau yn fy etholaeth i, mewn lleoedd fel Bae Colwyn, lle'r oedd synagog ers talwm. A allwch chi ddweud wrthym ni beth yr ydych chi'n ei wneud fel Llywodraeth i ddiogelu'n arbennig yr olion olaf, os mynnwch chi, o dreftadaeth y gymuned Iddewig yma yng Nghymru, o gofio pwysigrwydd hyn i wead a hanes cyfoethog ein gwlad?
Diolchaf i Darren Millar am y cwestiwn yna. Mae'n hollol iawn i dynnu sylw at y newidiadau yn natur y gymuned Iddewig yma yng Nghymru, a'r etifeddiaeth gyfoethog, yn yr amgylchedd adeiledig, ond hefyd mewn llawer o ffyrdd eraill, y mae'r gymuned honno yn ei chynnig. Yn fy etholaeth fy hun, ceir ffryntiad rhestredig i synagog y bydd Aelodau wedi sylwi arno ar Cathedral Road yn y fan yma. Ceir gweithgareddau lleol. Gofynnodd Darren Millar i mi yr wythnos diwethaf am hanes lleol, ac rwy'n siŵr y bydd wedi gweld arddangosfa leol ym Mangor a gynhaliwyd yn gynharach eleni a oedd yn olrhain hanes pobl Iddewig yn y rhan honno o Gymru. Ac arddangosfa hynod ddiddorol oedd hi hefyd.
Rwyf i wedi bod yn gweithio gyda rhai grwpiau buddiant Iddewig i weld pa un a allem ni gael arddangosfa yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, yn tynnu sylw at hanes pobl Iddewig yma yng Nghymru. Ac mae'r Gweinidog Addysg yn cyfarfod â phobl ynghylch hynny yr wythnos nesaf hefyd. Felly, mae camau y mae angen i ni eu cymryd, rwy'n cytuno, ar yr adeg hon yn hanes y gymuned honno, i wneud yn siŵr bod pobl yn ymwybodol o'r dreftadaeth hynod gyfoethog honno. A phan fo pethau y gellir eu gwneud i'w chadw ac i dynnu sylw'r cyhoedd yn ehangach ati, bydd Llywodraeth Cymru yn awyddus i chwarae ein rhan yn hynny.