Grŵp 2: Rhaglen i wella hygyrchedd Cyfraith Cymru (Gwelliant 1)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 25 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 5:57, 25 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf welliant 1. Rwy'n gobeithio—i ryw raddau, beth bynnag—y byddaf yn gallu ateb sylwadau Mark Reckless yn ystod y grŵp hwn. Cyflwynwyd y gwelliant hwn ar ôl trafod gwelliant tebyg yng Nghyfnod 2. Roedd y Bil gwreiddiol yn caniatáu i'r rhaglen wella hygyrchedd cyfraith Cymru i gael ei diwygio o bryd i'w gilydd. Roedd gwelliant y Llywodraeth yng Nghyfnod 2, ac rwyf yn diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am hynny, yn cyflwyno dyletswydd i adrodd yn flynyddol ar y rhaglen honno. Rwy'n credu efallai fod cyfrifoldeb ar y Senedd hon bellach i ystyried sut yn union y dylem ni graffu ar yr adroddiadau hynny.

Ond mae'r gwelliant hwn yn mynd gam ymhellach, ac mae'n galw am yr adolygiad canol tymor ffurfiol o effeithiolrwydd y rhaglen, sydd, yn fy marn i, yn dweud rhywfaint am yr hyn yr oedd Mark Reckless yn sôn amdano. Felly, nid yw'n adolygiad ychwanegol—gellir ei gyfuno â'r adolygiad blynyddol—ond mae'n rhywbeth sydd â mwy o sylwedd iddo, ac yn rhywbeth yr wyf i'n gobeithio y byddwn ni'n gallu dylanwadu arno yn y modd y byddaf yn ei ddisgrifio nawr.

Ar hyn o bryd, nid yw cynnwys yr adroddiad blynyddol wedi ei ragnodi. I mi, roedd yn bwysig bod y Senedd hon yn cael rhywfaint o ddweud o ran yr hyn yr adroddwyd arno fel nad oeddem yn cael ein cyflwyno gyda dim ond manylion helaeth am weithgarwch yr oedd y Llywodraeth wedi bod yn ymwneud ag ef heb unrhyw syniad o ba un a oedd ein hetholwyr yn gweld bod cyfraith Gymru yn fwy hygyrch o ganlyniad i hynny—a dyna pam mae'r gair 'effeithiolrwydd' wedi ei gynnwys yn y gwelliant hwn.

Rydym ni wedi wedi gweld y broblem hon o'r blaen, sef bod Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiadau ar gynnydd ei pholisi ei hun heb i'r Senedd hon gael unrhyw ddylanwad dros y cwestiynau y gellid eu holi yn y broses honno. Daethom wyneb yn wyneb â chryn wrthwynebiad oddi wrth y Llywodraeth wrth i'r Bil isafbris alcohol fynd rhagddo, er enghraifft, pan wrthodwyd gwelliant er ei fod yn nodi cwestiynau yr oeddem ni'n credu y byddai ein hetholwyr yn dymuno cael ateb iddynt.

Felly, y tro hwn, mae'r gwelliant yn caniatáu amser i drafod beth y dylai adolygiad ei gyflawni a sut y gellid mesur effeithiolrwydd. Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei barodrwydd i weithio gyda'r Senedd hon ac am ei lythyr at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar 18 Mehefin, sydd wedi symud y drafodaeth ymlaen ryw gymaint.