Yr Honiad o Gamdrafod Codi Oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 25 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:29, 25 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Yn ddiau, yr oedd ef yr un mor siomedig ag yr oeddwn i yn yr ymateb a gafwyd, a gwn ein bod ni, ar feinciau'r wrthblaid, yn ddiolchgar iawn am y ffaith bod y Llywodraeth wedi rhannu'r ymateb hwnnw â ni.

O ran yr ymgyfreithiad, os bydd yn ein harwain at sefyllfa apêl, sy'n debygol os bydd y llys yn dyfarnu o blaid y menywod, a gaf i ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol edrych eto i weld a fyddai'n bosibl ai peidio i Lywodraeth Cymru gymryd rhan yn yr ymgyfreithiad hwnnw? Byddwn i'n awgrymu iddo ef y byddai'r effaith gyffredinol ar economi Cymru yn sgil y menywod hynny yn peidio â chael yr arian y mae ganddyn nhw yr hawl i'w ddisgwyl yn sail posibl i hynny. Credaf y gallai fod yn fwy cymhleth ceisio cyflwyno'r achos ynghylch yr effaith ar wasanaethau cyhoeddus Cymru, er enghraifft, pan fydd rhaid i fenywod barhau mewn swyddi nad ydyn nhw bellach yn ddigon heini i'w cyflawni oherwydd y newidiadau hyn, ond credaf y dylai'r effaith ar yr economi gael ei hystyried. Ac os bydd yn ailystyried ac yn dod i'r casgliad nad yw'n gallu gwneud sylwadau o'r fath, a wnaiff ymrwymo i gyhoeddi'r sail ar gyfer y cyngor hwnnw, fel y bydd y menywod sy'n obeithiol o gael cefnogaeth fwy pendant gan Lywodraeth Cymru, er eu bod nhw'n gwerthfawrogi cefnogaeth Llywodraeth Cymru, mewn egwyddor, yn fawr i'r mater hwn, nad yw'n ddatganoledig—? Byddai'n ddefnyddiol gweld, os nad yw ef yn gallu cymryd unrhyw gamau pendant, ar ba sail y mae ef yn dod i'r casgliad na all wneud hynny.