Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 25 Mehefin 2019.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pellach hwnnw. Fel y soniais yn gynharach, yn ddiweddarach ysgrifennodd fy nghyd-Aelod Jane Hutt at Lywodraeth y DU yn adleisio'r pwyntiau a gafwyd eu gwneud yn ei gohebiaeth gynharach o ran y dystiolaeth a chanfyddiadau rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol, Philip Alston, ond hefyd cyfeiriodd Llywodraeth y DU at ganfyddiadau papur y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, sy'n meintioli effaith yr anghyfiawnder hwn mewn termau economaidd ar fenywod y mae hyn yn berthnasol iddyn nhw. A byddaf i'n siarad â Jane Hutt ac yn gofyn iddi hi a fydd hi'n barod i rannu'r ohebiaeth honno, fel y mae hi wedi'i wneud â'r ohebiaeth flaenorol, fel y gall yr Aelodau weld yn llawn pa gynrychiolaeth—mae hi'n awgrymu yn ddefnyddiol ei bod yn barod i wneud hynny—fel y gall yr Aelodau weld yn llawn pa ohebiaeth yr oeddem ni'n ymgysylltu â hi ar y mater pwysig hwn gyda Llywodraeth y DU wrth gyflwyno ein hachos.