Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 25 Mehefin 2019.
Diolch am yr ateb hwnnw. Rwyf wedi cael cyswllt gan fenywod sy'n methu caffael arian cyhoeddus o ganlyniad i'r cyfreithiau mewnfudo. Mae'r Gweinidog, Jane Hutt, yn dweud y gall pobl wneud cais am gonsesiwn trais domestig, ond mae hwnnw ar gyfer pobl sydd ar fisas person priod cyfnod byr yn unig, ac nid yw'n addas i bawb. Oherwydd yr achos penodol hwn, mae llawer o fenywod, mewn rhai achosion, yn cael gwrthod budd-dal tai a chymorth arall. Ac mae sefydliadau fel Cymorth i Fenywod a BAWSO wedi dweud wrthyf fod y deddfau hyn yn ei gwneud hi'n anodd, yn amhosib hyd yn oed, iddynt gefnogi menywod mewn argyfwng, gan gynnwys gwraig yr wyf wedi sôn amdani yn y Siambr hon o'r blaen. Gan nad oedd yn gwybod beth oedd ei statws yn y wlad hon, roedd yn golygu na allai gael mynediad ar unwaith i ganolfan loches ar ôl ffoi oddi wrth ei gŵr oedd yn ei cham-drin. Mae arnaf ofn y bydd hyn yn rhoi mwy o fenywod mewn perygl ac y gallai llawer ohonynt fod mewn sefyllfa argyfyngus iawn hyd yn oed.
Felly, beth ydych chi'n mynd i'w wneud i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn codi'r pryderon hyn gyda Llywodraeth y DU, yn enwedig gyda'r bwlch yn y sefyllfa fewnfudo yr wyf wedi'i amlinellu i chi o ran y consesiynau? A sut y byddwch yn gallu unioni'r cam hwn mewn cysylltiad â chyllideb Llywodraeth Cymru—h.y. a fyddech yn gallu ariannu llochesau yng Nghymru yn fwy fel nad oes raid iddynt gwestiynu o ble y daw'r wraig pan fydd yn cyrraedd y foment dyngedfennol honno pan fydd yn ffoi o berthynas gamdriniol?