Ffoaduriaid yng Nghymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 25 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:42, 25 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am dynnu sylw at fater sy'n amlwg yn bwysig iawn. Rydym am sicrhau, fel Llywodraeth Cymru, bod y rhai y gwrthodir lloches iddynt yn cael cyngor cyfreithiol a tho uwch eu pennau wrth iddynt chwilio am ateb cynaliadwy mewn amgylchiadau a sefyllfaoedd sy'n amlwg yn eithriadol o anodd. Gall hynny gynnwys cynrychiolaeth gyfreithiol, a allai efallai arwain at hawliad newydd, neu ymwneud â phroses o ddychwelyd ffurflenni gwirfoddol. Rydym wedi comisiynu rhywfaint o waith ymchwil yn ddiweddar i ffyrdd o broffesiynoli ac ehangu'r sector cynnal yng Nghymru i wella mynediad ac i wella diogelu yn y cyd-destun hwnnw.

Mae'n sôn yn ei chwestiwn am y cyllid y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i BAWSO yn benodol er mwyn galluogi menywod a merched duon a lleiafrifoedd ethnig i gael y cymorth sydd ei angen arnynt. Bwriad hynny yw sicrhau na fydd unrhyw ddioddefwyr yn cael eu troi i ffwrdd. Gwn fod y Dirprwy Weinidog wedi bod yn gohebu â'r Aelod a bod y materion hyn, fel rhan o'r ohebiaeth reolaidd rhwng y Dirprwy Weinidog a'r Swyddfa Gartref, yn sicr yn faterion y bydd yn parhau i'w codi gyda nhw i sicrhau bod hyn yn parhau ar ein hagenda ni ond hefyd ar un Llywodraeth y DU.