Part of the debate – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 25 Mehefin 2019.
Diolch, Llywydd. Llynedd, cawsom rybudd llym gan y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd, sy'n dangos ei bod y tu hwnt i amheuaeth fod ein hinsawdd yn cynhesu a bod y dystiolaeth am effaith hynny ar y ddynoliaeth hyd yn oed yn fwy cadarn. Yng Nghymru, mae gennym ymrwymiad cryf i weithredu ar newid hinsawdd, drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Ym mis Rhagfyr 2018, pennwyd ein nodau interim deddfwriaethol cyntaf a'r ddwy gyllideb garbon gyntaf, gan roi eglurder a chyfeiriad.
Ar ôl pennu ein cyllideb garbon gyntaf ym mis Mawrth eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 'Ffyniant i bawb: Cymru Carbon Isel', sy'n cynnwys proffiliau allyriadau manwl yn ôl y sector, a 100 o bolisïau a chynigion i gyflawni ein cyllideb garbon gyntaf a Chymru carbon isel. Mae'r cynllun wedi cael ei rannu yn ôl y portffolio, sy'n dangos ymrwymiad y Cabinet cyfunol i'r newid. Mae'n dwyn 76 o ddarnau polisi ynghyd o bob rhan o Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd, a 24 o gynigion i'w gweithredu yn y dyfodol. Mae gweithredu'r polisïau yn y cynllun yn hollbwysig i gyrraedd ein nod interim a'n cyllideb garbon gyntaf, ac mae'r cynigion yn gosod y sylfaen ar gyfer datgarboneiddio yn fwy eang.
Mae'r data diweddaraf yn dangos ein bod yn gwneud cynnydd, gydag allyriadau carbon 25 y cant yn is yn 2017 o'u cymharu â 1990. Er hynny, ni ddylem fychanu'r heriau yr ydym yn eu hwynebu yng Nghymru. Daw bron 60 y cant o'n hallyriadau yn sgil cynhyrchu ynni a diwydiant. Yn y sector ynni, cynyddodd yr allyriadau 44 y cant rhwng 1990 a 2016, tra bod allyriadau cyffredinol y DU o'r sector wedi gostwng 60 y cant yn ystod yr un cyfnod. Mae hyn yn adlewyrchu penderfyniadau hanesyddol Llywodraeth y DU i leoli gorsafoedd ynni tanwydd ffosil yng Nghymru. Mae Cymru, o ganlyniad, yn allforio trydan i system ynni'r DU.
Mae angen inni fod yn rhan o system ynni newydd lle gallwn reoli'r canlyniadau yr ydym yn eu dymuno i Gymru—canlyniadau sy'n fuddiol o ran ein heconomi, yr adnoddau naturiol y mae pob un ohonom yn dibynnu arnyn nhw, a'n cymunedau ni. Dyma pam, yn y cynllun, mae gennym ni gynnig nid yn unig i ddatblygu ein polisi ar losgi tanwyddau, ond i ganolbwyntio hefyd ar fwy o berchnogaeth leol ar gynhyrchu ynni adnewyddadwy. Mae Cymru eisoes yn cynhyrchu trydan o ffynonellau adnewyddadwy sy'n cyfateb i 48 y cant o gyfanswm ein defnydd.
Mae'r cynllun yn cynnwys camau i leihau allyriadau yn sgil diwydiant, a bydd yn rhaid i hynny ganolbwyntio ar gydweithredu, ymchwil a datblygu. Byddwn yn sefydlu grŵp un pwrpas dan arweiniad y diwydiant i ystyried y cyfleoedd a'r heriau arbennig sy'n dod gyda datgarboneiddio sectorau diwydiannol a busnesau yng Nghymru. I wneud hynny bydd yn rhaid sicrhau amgylchedd busnes cynaliadwy a chystadleuol, gan fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd i arloesi a ddaw gyda datgarboneiddio diwydiant.
Byddwn yn datgarboneiddio ein system drafnidiaeth drwy ganolbwyntio ar annog newid moddol tuag at deithio mwy cynaliadwy, a chefnogi'r defnydd o gerbydau allyriadau isel. Byddwn yn datgarboneiddio ein hadeiladau drwy raglenni ôl-ffitio estynedig, sydd nid yn unig yn helpu i leihau allyriadau ond yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd hefyd ac yn meithrin sgiliau lleol. Fis nesaf, byddwn ni'n derbyn argymhellion ar sut y gellid cyflawni hyn gan ein grŵp cynghori allanol.
Byddwn hefyd yn cynyddu ein storfeydd carbon drwy ehangu'r gorchudd coed a chyda gweithgareddau i greu coetiroedd. Dyma un o'r rhesymau am gael coedwig genedlaethol newydd i Gymru, a byddaf i'n lansio ymgynghoriad hefyd ar gam nesaf ein polisi rheoli tir y mis nesaf, cyn y Sioe Frenhinol.
Mae'n rhaid inni sicrhau bod ein trawsnewidiad yn seiliedig ar degwch a chyfiawnder, heb adael neb ar ôl, ac rwy'n falch o weld y tynnwyd sylw at hyn hefyd yng nghyngor diweddar Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, yr oedd ei nod o 95 y cant yn seiliedig ar gadw'r sail ddiwydiannol sydd gennym ni a'i datgarboneiddio, yn hytrach nag anfon ein hallyriadau dramor. Mae hyn yn bwysig nid yn unig o ran diogelu ein swyddi lleol ond o ran sicrhau ein bod hefyd yn gyfrifol yn fyd-eang. Byddwn hefyd yn sefydlu grŵp cynghori ar gyfiawnder hinsoddol i gynghori'r Llywodraeth ar symud oddi wrth economi sy'n seiliedig ar danwydd ffosil, gyda thegwch yn ganolog i'n camau gweithredu.
Rwyf wedi bod yn glir bob amser, ni fydd gweithredu gan y Llywodraeth yn ddigonol ynddo'i hunan. Ni allwn gyflawni hyn heb i bawb chwarae eu rhan. Bydd gweithio mewn ffordd amgen i ddatblygu sgiliau, arloesi, newid ymddygiad a chydweithio yn hanfodol os ydym i gyflawni ein huchelgais. Felly, bydd angen i'n cynllun nesaf fod yn gynllun ar gyfer Cymru gyfan, a fydd yn adlewyrchu'r angen i gydnabod cyfraniadau pawb i ymateb i her newid hinsawdd a diogelu'r manteision mwyaf posib i les Cymru drwy drawsnewid i fod yn economi carbon isel.
Yn fuan ar ôl cyhoeddi'r cynllun, datganodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd i ysgogi camau gweithredu. Wedi hyn y Cynulliad Cenedlaethol oedd y senedd gyntaf yn y byd i bleidleisio o blaid datganiad o'r fath. Yn gynharach y mis hwn, ac yng ngoleuni ein datganiad ni, fe wnes i gadarnhau fy mod yn derbyn cyngor y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd i leihau allyriadau 95 y cant erbyn 2050, ac yn ein hymrwymo ni i fynd ymhellach na hynny hyd yn oed a sicrhau dileu allyriadau net yn llwyr erbyn 2050 fan bellaf. Dyma gyfraniad teg Cymru i ymrwymiadau'r DU yn ôl cytundeb Paris.
O ganlyniad i hyn, y flwyddyn nesaf byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth i fabwysiadu nod i leihau carbon 95 y cant, sy'n cynrychioli newid enfawr o ran uchelgais o'n nod presennol o 80 y cant; a chyn diwedd 2021, byddwn yn nodi ein cynllun nesaf yn cyfateb i gyfnod y gyllideb o 2021 i 2025. Gofynnir i bob Gweinidog adolygu ei gamau gweithredu yn y cynllun i nodi lle y gallwn lwybro ymhellach ac yn gyflymach i fodloni'r uchelgais uwch a osodwyd gennym ni ein hunain.
Fodd bynnag, bydd yn rhaid inni barhau i ganolbwyntio ar y cam cyntaf. Mae 'Cymru Carbon Isel' yn disgrifio sut y byddwn ni'n cwrdd â'n cyllideb garbon gyntaf ac yn gosod sylfaen hanfodol hefyd ar gyfer yr ymdrechion mwy caled o'n blaen, nid yn unig gan y Llywodraeth, ond gan Gymru benbaladr. Os nad awn ni i'r afael â'r meysydd sy'n cael eu hamlinellu yn y cynllun, ni fyddwn yn y pen draw yn cyrraedd ein cyllideb garbon gyntaf na'r her sylfaenol o fynd i'r afael â newid hinsawdd.
Bydd cyrraedd ein nodau yn golygu y bydd pobl yn cydweithio ar draws y Llywodraeth, y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol, ac yn cynnwys y gymdeithas yn ei chyfanrwydd, ac rwy'n falch o weld bod rhywrai eraill eisoes wedi dilyn wrth ddatgan argyfwng hinsawdd. Mae hon yn her aruthrol, ond yn un yr wyf i'n hyderus y gall Cymru ymateb iddi.