Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 25 Mehefin 2019.
Nawr, mae gwaith y comisiwn eisoes wedi dechrau. Rwyf wedi cael trafodaethau anhygoel o adeiladol gyda'r Arglwydd Burns am y gwaith sy'n cael ei wneud hyd yma gan Lywodraeth Cymru a sut y bydd ef a'i gomisiwn yn bwrw ymlaen â'r gwaith. Rydym ni'n archwilio'r holl fesurau tymor byr sydd ar gael i liniaru tagfeydd. Rwy'n falch ein bod yn gallu cyflwyno gwasanaethau patrolio ychwanegol a gwasanaethau achub cerbydau sydd wedi torri. Ni fydd y rhain yn dod heb gost, wrth gwrs; mae'r rhain yn wasanaethau drud, ond bellach maen nhw wedi'u profi. Cawsant eu defnyddio gyntaf ar y A55 yn rhan o waith cydnerthu'r A55, ac erbyn hyn profwyd eu bod yn gweithio.
Rhaid imi ychwanegu nad yw'r holl arian a ddyrannwyd i'r llwybr du ar gael i greu datrysiad ar gyfer y ffordd yn unig nac ar gyfer ymyriadau ar yr M4 yn unig oherwydd, wrth gwrs, un o'r rhesymau pam y penderfynodd y Prif Weinidog beidio â rhoi'r Gorchmynion oedd oherwydd y byddai wedi sugno cyfalaf o seilweithiau cymdeithasol eraill hynod bwysig. Fodd bynnag, mae'r Prif Weinidog eisoes wedi bod yn glir y bydd yr argymhellion a gyflwynir gan y comisiwn yn cael eu blaenoriaethu o ran cyllid a neilltuir gan Lywodraeth Cymru i ddatrys y problemau a welwn ni ar y rhan honno o'r rhwydwaith ffyrdd.
Ond rydym ni hefyd wedi bod yn glir gyda'r Aelodau bod yn rhaid i'r atebion hynny fod yn werth da am arian. Mater i'r comisiwn fydd ystyried pob posibilrwydd. Ni fyddwn yn ystyried unrhyw hoff brosiectau, fel y dywedais yn fy natganiad ysgrifenedig, y tu allan i waith y comisiwn. Er y bydd galwadau am gyllid yn cystadlu â'i gilydd bob amser, rydym ni'n glir bod sicrhau atebion cynaliadwy ar gyfer yr heriau sylweddol ar hyd y coridor trafnidiaeth hwn yn brif flaenoriaeth, a gallaf sicrhau Aelodau na chaiff yr arian a wariwyd ers 2013 yn datblygu'r cynigion ar gyfer prosiect yr M4 ei wastraffu ac y caiff ei ddefnyddio'n effeithiol gan y comisiwn, gan sicrhau ei fod yn gwbl wybodus o ran modelu trafnidiaeth, o ran arolygon amgylcheddol a'r holl ffactorau eraill sydd ar waith ledled y rhanbarth.
Rwy'n cydnabod bod y ffigur sydd ynghlwm wrth gost datblygu'r llwybr du arfaethedig yn un sylweddol, ond mae'n cynrychioli rhywbeth fel 6 y cant yn unig o'r gost gyffredinol a amcangyfrifwyd ar gyfer y prosiect. Ac mae hynny, fel y dywedais eisoes yn y Siambr hon, yn cymharu'n ffafriol iawn â phrosiectau eraill ledled y DU. Yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw edrych ar gostau datblygu prosiectau fel HS2 i werthfawrogi na allwch chi gyflawni prosiect seilwaith mawr yn y byd gorllewinol heb orfod ysgwyddo costau datblygu sylweddol.
Rydym ni hefyd wedi bod yn glir iawn wrth bwysleisio bod y prosiect hwn yn gwbl unigryw o ran y raddfa ac o ran yr effaith ar y safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, ac felly, mae'n rhaid ei ystyried ar ei ben ei hun. Ers inni gyflwyno achos grymus iawn, rwy'n credu, bu datganiad o argyfwng hinsawdd, gwell dealltwriaeth a gwerthfawrogiad bod angen inni weithredu nawr, bod angen inni fod yn fwy ymatebol ac yn fwy cyfrifol, ac, felly, mae'r disgwyliadau yn fwy.
Rwy'n gwybod bod cynlluniau eraill wedi cael eu hamlygu'n ddiweddar ac mae ofn na fyddant yn gweld golau dydd o ganlyniad i'r ffaith y caiff hyn ei weld fel rhywbeth sydd wedi gosod cynsail. Nid yw hynny'n wir o gwbl; bydd y rhaglenni hynny i gyd yn mynd rhagddynt. Yn wir, mae ffordd osgoi Caernarfon-Bontnewydd yn mynd rhagddi. Rydym ni'n bwrw ymlaen ag ymgynghoriadau ar welliannau i'r A483 y mis hwn. Bydd gwaith ar goridor yr A55/A494 yn Sir y Fflint yn mynd yn ei flaen yr haf hwn gyda rhagor o waith modelu, gwaith ar ganllawiau arfarnu trafnidiaeth Cymru ac ymgynghoriadau a chyfarfodydd pellach gyda rhanddeiliaid lleol. Mae prosiectau ffyrdd eraill ar hyd a lled Cymru yn dal ar y gweill i'w darparu, ac nid yw hyn yn newid ein safbwynt ar y rheini.
Mae gennym ni hefyd gynlluniau hynod o gyffrous a beiddgar ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yma yng Nghymru: o'r cynllun £5 biliwn a ddatblygwyd gennym ni, drwy Trafnidiaeth Cymru, ar gyfer y fasnachfraint rheilffyrdd a'r metro newydd fydd yn trawsnewid pethau'n llwyr; i ddeddfwriaeth o bwys a fydd yn ein helpu i ail-reoleiddio'r rhwydwaith bysiau; ac, wrth gwrs, y buddsoddiad mwyaf i ni ei wneud erioed ym maes teithio llesol. Mae llawer iawn o waith cyffrous yn mynd rhagddo ledled Cymru a fydd, rwy'n credu, yn ysbrydoli, yn annog ac yn fodd i bobl newid sut maen nhw'n teithio, sydd mor bwysig. Dirprwy Lywydd, rydym ni wedi ymrwymo i fynd ati mewn modd cynhwysol a chydweithredol er mwyn canfod atebion arloesol, fforddiadwy a chynaliadwy yn yr amser byrraf posib, ac edrychwn ymlaen at weithio gydag Aelodau a rhanddeiliaid ar y cyd, wrth gwrs, â'r comisiwn, i ddiwallu'r angen hwnnw.