Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 25 Mehefin 2019.
Diolch. Gadewch imi sôn am ddwy stori gyferbyniol. Mae un ohonyn nhw'n wir, ac un yn bortread o'r hyn a allai fod wedi bod. Yn gyntaf, felly, yn 2011, mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ddilyn y llwybr du bondigrybwyll i'r de o Gasnewydd. Yn 2019, wyth mlynedd yn ddiweddarach, wyth mlynedd o roi'r holl wyau mewn un fasged anghynaladwy, ac mae Llywodraeth Cymru yn gorfod cyfaddef bod y prosiect yn anghynaladwy yn ariannol ac yn amgylcheddol. Mae'r M4 yn dal i fod yn orlawn ac yn llawn tagfeydd, ac nid oes unrhyw ddewisiadau eraill ar y gweill.
Neu, yn 2011, mae Llywodraeth Cymru yn sylweddoli mai'r unfed ganrif ar hugain yw hon, nid yr ugeinfed, bod yn rhaid gwella cydnerthedd ffyrdd, oes, ond ar y cyd â buddsoddi helaeth mewn trafnidiaeth gyhoeddus a newid moddol. Yn 2019, wyth mlynedd yn ddiweddarach, mae rhaglen gwella ffyrdd sylweddol yn mynd yn ei blaen i liniaru'r pwysau ar yr M4, ac mae poblogaeth Casnewydd a'r cyffiniau eisoes yn mwynhau ffrwyth cyntaf y buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus sylweddol carbon isel, fel yr addawyd pan ddynodwyd Casnewydd yn gynllun braenaru ar gyfer arloesi mewn trafnidiaeth.
Nawr, dywedais fod yr ail fersiwn honno yn un llawn dychymyg, ond nid oes rhaid iddi fod nawr, os ydym yn newid y dyddiadau ac yn dechrau'r cloc o hyn ymlaen. Rydym ni wedi aros ac wedi gwastraffu wyth mlynedd, a bydd yr etholwyr yn mynegi eu barn mewn etholiadau yn y dyfodol, mae'n siŵr, am y cyfleoedd y mae'r Llywodraeth Lafur hon wedi'u colli, ond rhaid inni dorchi llewys nawr.
Dyma rywbeth arall a allai fod wedi digwydd yn yr ail sefyllfa honno: roedd Llywodraeth Cymru, drwy gomisiwn seilwaith cenedlaethol, yn gallu datblygu'r mentrau ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus arloesol hynny ar gyfer Casnewydd a'r de-ddwyrain yn rhan o strategaeth seilwaith drafnidiaeth newydd i Gymru gyfan. Yn Wrecsam a'r gogledd-ddwyrain, Abertawe, Caerdydd a'r Cymoedd, gwelwyd cynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus yn datblygu'n gyflymach oherwydd profiad Casnewydd. Arweiniodd yr hyder a gafwyd o weld ymateb Casnewydd i'r cynnig trafnidiaeth gyhoeddus newydd, a aeth â thraffig oddi ar y M4, wrth gwrs, at feddylfryd newydd o ran datblygu ac adfer cysylltiadau trafnidiaeth newydd fel cysylltiad rheilffordd arfordir y gorllewin.
Mae hyn i gyd, rwy'n gwbl grediniol, yn bosib, a byddai wedi bod yn bosib. Yr hyn y mae'n rhaid inni ei wneud, serch hynny, nawr yw sicrhau mai 2019 yw'r man cychwyn ar gyfer y math hwnnw o ddull newydd o gynllunio trafnidiaeth i'r de-ddwyrain ac i Gymru gyfan.
Nawr, crybwyllais y comisiwn seilwaith cenedlaethol, a bydd y Gweinidog wedi fy nghlywed yn gofyn o'r blaen, 'Pam sefydlu comisiwn newydd i edrych ar fater yr M4 yng Nghasnewydd? Onid oes gennym ni gyfrwng yn y comisiwn seilwaith cenedlaethol cymharol newydd a ddylai fodoli i wneud hynny'n union?' Ac o'r gorau, nid y comisiwn cenedlaethol yw'r union beth yr oeddem ni ym Mhlaid Cymru yn galw amdano—nid mor gryf—ond roeddem yn ei groesawu fel cam i'r cyfeiriad cywir o leiaf, ac oni fyddai rhoi'r prosiect hwn iddo, y dasg amlwg hon o ymateb i'r penderfyniad ynglŷn â'r M4, yr union beth sydd ei angen i adael iddo dyfu o ran ei statws ac i fagu hyder? Ac, ar yr un pryd, onid yw cael comisiwn dim ond ar gyfer mater yr M4 yr union beth nad ydym ei eisiau os ydym ni o ddifrif ynghylch datblygiadau trafnidiaeth ar gyfer Cymru gyfan? Edrychwch ar bwynt 4 yng nghynnig y Llywodraeth, sy'n nodi:
'ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu ac ariannu atebion cynaliadwy ac effeithiol i broblemau tagfeydd fel rhan o system drafnidiaeth integredig, aml-ddull a charbon isel.'
Nawr, hoffwn feddwl bod y Llywodraeth, yn hynny o beth, yn golygu system drafnidiaeth i Gymru gyfan, yn yr un ffordd ag yr ydym ni yn galw amdano yn ein gwelliant am ymrwymiad i becyn buddsoddi mewn seilwaith i Gymru gyfan. Efallai y gall y Gweinidog gadarnhau hynny. Byddai rhoi'r dasg yn nwylo'r comisiwn seilwaith cenedlaethol yn gwarantu'r cyd-destun ehangach hwnnw—ie, mynd i'r afael â'r mater dan sylw ynglŷn â Chasnewydd fel blaenoriaeth, ond gweld sut y gallai'r cyfan gydblethu â'i gilydd, efallai fel y rhagwelais yn fy amserlen amgen.