6. Dadl ar Goridor yr M4 o amgylch Casnewydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 25 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:31, 25 Mehefin 2019

Felly, beth ydy'r atebion? Does gen i mo'r fantais o fod mewn Llywodraeth. Y Llywodraeth sydd wedi colli cyfle yr wyth mlynedd ddiwethaf. Nhw sydd yn y sefyllfa freintiedig rŵan o allu dechrau cynllunio o rŵan ymlaen. Ond wrth i gomisiwn y Llywodraeth ddechrau ar ei waith, mi fyddwn ninnau ym Mhlaid Cymru yn gwneud ein gwaith ein hunain, yn siarad efo rhanddeiliaid yn lleol, ac arbenigwyr trafnidiaeth ac arbenigwyr economaidd eraill, i edrych am gynigion amgen. Dwi'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn hapus i'r gwaith hwnnw gael ei gyflwyno i'r comisiwn er ystyriaeth. Rydyn ni'n dechrau ar y gwaith hwnnw yn syth.

Ac mae yna gyfleoedd gennym ni rŵan. Mae yna elfennau gwleidyddol i'r hyn sydd angen digwydd nesaf. Mae angen sicrwydd y bydd pwerau gwariant a benthyca yn dal i fod ar agor i Lywodraeth Cymru. Does yna ddim cyfiawnhad dros adael i Lywodraeth Prydain reoli beth ddylai fod yn flaenoriaethau i ni yng Nghymru. Dwi'n gobeithio clywed y Gweinidog yn cytuno â hynny. Dŷn ni'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi bod ar fai i gytuno i'r trefniadau hynny, ond rŵan mae'n rhaid gweld y Llywodraeth yma yng Nghymru yn brwydro dros gael cadw'r pwerau benthyg. Ac wrth ateb problem y de-ddwyrain a Chasnewydd, sydd yn flaenoriaeth, mae'n rhaid sicrhau bod Cymru gyfan yn elwa.